Neidio i'r cynnwys

Chwaraeon Paralympaidd

Oddi ar Wicipedia
Chwaraeon Paralympaidd
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, dosbarth yn y gystadleuaeth Edit this on Wikidata
Mathcystadleuaeth chwaraeon mewn digwyddiad aml-chwaraeon, parachwaraeon Edit this on Wikidata
Rhan oGemau Paralympaidd Edit this on Wikidata
Tenis cadair olwyn, un o'r chwaraeon Paralympaidd.
Boccia, gêm unigryw Paralympaidd

Term am ystod eang o chwaraeon ar gyfer pobl â anableddau corfforol yw chwaraeon Paralympaidd. Tra bod nifer o bobl â anableddau'n cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden ar amryw o wahanol lefelau, mae chwaraeon Paralympaidd yn cyfeirio at y cystadlaethau a drefnir fel rhan o'r symudiad Paralympaidd rhyngwladol. Trefnir a rhedir rhain o dan orychwyliaeth y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol a chymdeithasau chwaraeon rhyngwladol eraill.

Datblygodd chwaraeon wedi eu trefnu ar gyfer pobl â anableddau allan o raglenni adferiad meddygol. Cyflwynwyd chwaraeon fel rhan o adferiad wedi'r Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i anghenion niferoedd mawr o gyn-filwyr a dinasyddion a oedd wedi eu anafu. Esblygodd chwaraeon fel adferiad i ddod yn chwaraeon hamddenol, ac yna i chwaraeon cystadleuol. Arloeswr yr ymdriniaeth yma oedd Ludwig Guttmann o Ysbyty Stoke Mandeville yn Lloegr. Ym 1948, tra roedd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Llundain, trefnodd gystadleuaeth chwaraeon ar gyfer athletwyr mewn cadeiriau olwyn yn Stoke Mandeville. Dyma oedd tarddiad Gemau Stoke Mandeville, a esblygodd yn ddiweddarach i ddod yn y Gemau Paralympaidd cyfoes.[1]

Categorïau anabledd

[golygu | golygu cod]

Mae'r symudiad yn defnyddio deg categorïau anabledd i'r cystadleuwyr, gan gynnwys wyth categori am anableddau corfforol, un am athletwyr â cholled golwg ac un am anableddau dysgu.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "History of the Paralympic Movement" (PDF). paralympic.org (yn Saesneg). International Paralympic Committee. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2012. Cyrchwyd 3 Medi 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am y Gemau Paralympaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.