Ludwig Guttmann

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ludwig Guttmann
Ludwig Guttmann2.jpg
Ganwyd 3 Gorffennaf 1899 Edit this on Wikidata
Toszek Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Mawrth 1980 Edit this on Wikidata (80 oed)
Aylesbury Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth niwrolegydd Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Niwrolegydd Almaenig oedd Syr Ludwig "Poppa" Guttmann CBE, FRS (3 Gorffennaf 1899 yn Tost, Silesia, yr Almaen18 Mawrth 1980), a sefydlodd y Gemau Paralympaidd a cysidrir i fod yn un brif arloeswyr gweithgareddau corfforol ar gyfer pobl gydag anabledd.[1]

Ef oedd un o'r niwrolegwyr mwyaf blaengar yn yn Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd. Gweithiodd Guttmann yn yr Ysbyty Iddeweg yn Breslau tan 1939, pad orfodwyd i ddianc i Loegr. Ym 1944, gofynnodd y llywodraeth Prydeinig iddo sefydlu Canolfan Anafiadau Sbinol Cnedlaethol yn Stoke Mandeville y tu allan i Lundain, yn Ysbyty Stoke Mandeville. Apwyntwyd yn gyfarwyddwr y ganolfan, a deliodd y swydd hyd 1966. Credodd fod chwaraeon yn ffurf o therapi, gan ei ddefnyddio i adeiladu cryfder corfforol a hunan barch mewn cleifion. Erbyn 1952, roedd Gemau Stoke Mandeville Guttmann ar gyfer yr anabl wedi tyfy i gynnwys 130 o gyfranogwyr rhyngwladol, a parhaodd i dyfu. Gwnaeth argraff ar swyddogion y Gemau Olympaidd a'r gymuned rhyngwladol. Ym 1956, gwobrwywyd Guttmann gyda Chwpan Fearnley, am ei gyfraniad rhagorol i'r ddelfryd Olympaidd. Dechreuodd y Gemau Paralympaidd yn Rhufain ym 1960, a cynhelir hwy yn fuan ar ôl y Gemau Olympaidd ac yn aml yn yr un ddinas. Sefydlodd Guttmann hefyd Gymdeithas Prydeinig Chwaraeon yr Anabl ym 1960.

Derbyniodd Guttmann OBE a CBE yng ngwledydd Prydain a cafodd ei anrhydeddu'n fyd-eang. Ym 1966 cafodd ei wneud yn farchog gan y Frenhines Elisabeth II ac felly daeth yn KBE (Marchog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]