Cherisse Osei

Oddi ar Wicipedia
Cherisse Osei
Ganwyd23 Rhagfyr 1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethdrymiwr Edit this on Wikidata

Drymiwr o Loegr yw Cherisse Osei (ganwyd 23 Rhagfyr 1986).[1] Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda'r band Simple Minds. Yn 2018, enillodd Osei y lle cyntaf yn y categori 'Drymiwr Sesiwn Fyw' ar gyfer arolygon Music Radar cylchgrawn Rhythm. [2] Perfformiodd gyda Kelly Jones yn ystod ei daith yn 2019. Roedd hi'n un o sawl drymiwr enwog a gymerodd ran yn y drwmathon Owain Wyn Evans ym mis Tachwedd 2021.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Metal Archives Artist Profile | Metal Archives". metal-archives.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Mehefin 2019.
  2. "The 12 Best Live Session Drummers in the World Right Now | Music Radar". musicradar.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Mehefin 2019.
  3. "Plant Mewn Angen yn codi dros £39m – ac Owain Wyn Evans yn codi £3.6m". Golwg360. 20 Tachwedd 2021. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2021.