Neidio i'r cynnwys

Cerdd Anacreonaidd

Oddi ar Wicipedia
Cerdd Anacreonaidd
Enghraifft o'r canlynolpoetic form, Genre Edit this on Wikidata

Barddoniaeth sydd yn ymdrin â charu , hwyl ac yfed, yn nhraddodiad y bardd Groeg hynafol Anacreon, yw cerdd Anacreonaidd. Pennill byr ydyw fel rheol, gan amlaf o linellau saith neu wyth sillaf.

Ymdrinia Anacreon, a flodeuai yn y 6g CC, â phleserau bywyd, yn enwedig serch a gwin, yn ei gerddi. Dynwaredwyd ei waith gan feirdd diweddarach o'r 1g CC i'r 6g OC, a chesglir eu hymdrechion yn yr Anacreontea, blodeugerdd a briodolir yn ffug yn hanesyddol i Anacreon. Fel rheol, cyfansoddwyd y penillion hyn mewn mesur sy'n cyfuno sillafau hirion (–) a byrion (˘) ar batrwm ˘ ˘ – ˘ – ˘ – –. Cedwid yr Anacreontea mewn llawysgrifau, a chyhoeddwyd y casgliad gyda chyfieithiad Lladin ym 1554 gan y Ffrancwr Henri Estienne.[1]

Bathwyd y term anacreontiques gan y bardd Seisnig Abraham Cowley, un o'r Metaffisegwyr, ym 1656, i ddisgrifio casgliad o'i gerddi a fu'n aralleiriadau honedig o benillion Anacreon, wedi eu trosi i fesur Saesneg a oedd i fod i gynrychioli'r fydryddiaeth Roeg wreiddiol. Defnyddiwyd yr enw yn fwyfwy i ddisgrifio telynegion o'r un themâu â'r traddodiad Anacreonaidd, yn hytrach nag unrhyw ffurf neu fesur penodol. Fodd bynnag, ysgrifennir cerddi Anacreonaidd o'r fath gan amlaf mewn corfannau trochäig (˘ –), hynny yw, yn cynnwys sillaf hir neu acennog a ddilynir gan sillaf fer neu ddiacen. Er enghraifft, defnyddiodd Thomas Moore gorfannau trochäig yn ei drosiad Saesneg Odes of Anacreon (1800).[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Chris Baldick, The Concise Oxford Dictionary of Literary Terms (Rhydychen: Oxford University Press, 2001), t. 9.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.