Cell ffotofoltaidd organig

Oddi ar Wicipedia
Cell ffotofoltaidd organig
Mathcell solar Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enghreifftiau o ddeunyddd ffotofoltaidd organig

Dyfais sydd wedi ei seilio ar ddeunyddiau organig, ac sy'n manteisio ar yr effaith ffotofoltaidd, yw cell ffotofoltaidd organig neu gell ffotofoltaidd blastig.[1] Caiff yr haen weithredol, sydd wedi'i gwneud o ddeunyddiau a seilwyd ar yr elfen carbon, ei defyddio i drosglwyddo egni golau yn egni trydanol. Fel rheol, bydd dau ddeunydd gydag 'orbit moleciwlaidd uchaf llawn' ac 'orbit moleciwlaidd isaf gwag' gwahanol yn cael eu cyfuno, i oresgyn egni clymu cynyrfonau.

Mae cost cynhyrchu'r plastig a ddefnyddir yn y gell ffotofoltaidd organig yn isel pan gynhyrchir nifer fawr ohonynt. Mae cyfernod amsugno optegol moleciwlau organig yn uchel, felly mae llawer o olau yn cael ei amsugno, gyda dim ond ychydig o ddeunyddiau. O'u cymharu â chelloedd ffotofoltaig anorganig, fodd bynnag, mae eu heffeithiolrwydd yn is, maent yn ansefydlog ac mae eu nerth yn wanach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pulfrey, L.D. (1978). Photovoltaic Power Generation. Efrog Newydd: Van Nostrand Reinhold Co. ISBN 9780442266400.