Catecism Heidelberg

Oddi ar Wicipedia
Argraffiad 1563

Dogfen gyffesol Brotestannaidd ar ffurf cyfres o gwestiynau ac atebion a ddefnyddir i ddysgu athrawiaeth Gristnogol Galfinaidd yw Catecism Heidelberg. Cyhoeddwyd ef yn 1563 yn Heidelberg, sydd yn yr Almaen heddiw, dan y teitl Catecism, neu Gyfarwyddyd Cristionogol, yn ôl Arferion Eglwysi ac Ysgolion y Freiniarllaeth Etholiadol. Cyfeirir ati weithiau fel "Catecism y Freiniarllaeth" oherwydd iddo gael ei gomisiymu gan etholydd tywysogol y Freiniarllaeth Etholiadol. Gyda'r Gyffes Felgig a Chanonau Dort, un o Dair Ffurf Undod yw Catecism Heidelberg. Mae wedi cael ei gyfieithu i lawer o ieithoedd ac fe'i hystyrir yn un o'r catecismau Diwygiedig mwyaf dylanwadol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Zacharias Ursinus oedd prif awdur Catecism Heidelberg

Comisiynodd yr etholwr Ffredrig III, brenin y Freiniarllaeth rhwng 1559 a 1576, waith llunio catecism newydd i'w diriogaeth. Er bod y catecism yn datgan bod "y gyfadran ddiwinyddol gyfan yma" ym Mhrifysgol Heidelberg a "holl uwcharolygwyr a gweision blaenaf yr eglwys"[1] wedi ei gyfansoddi, ystyrir mai Zacharius Ursinus (1534–83) oedd y prif awdur. Honnid hefyd i ddechrau bod Caspar Olevianus (1536–87) yn gydawdur iddo ond nid yw rhan helaeth ysgolheigion modern yn cyd-fynd â'r safbwynt hwn erbyn hyn.[2][3] Mae'n debyg i Johann Sylvan, Adam Neuser, Johannes Willing, Thomas Erastus, Michael Diller, Johannes Brunner, Tilemann Mumius, Petrus Macheropoeus, Johannes Eisenmenger, Immanuel Tremellius a Pierre Boquin gyfrannu at y catecism mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.[4] Ffredrig ei hun ysgrifennodd y rhagair iddo[5] a bu'n goruchwylio ei gyfansoddi a'i gyhoeddi yn agos iawn.

Roedd Ffredrig yn Lwtheriad yn swyddogol ond yn gogwyddo yn gryf at y Calfiniaid ac yr oedd am gydbwyso sefyllfa grefyddol ei diriogaeth Lwtheraidd iawn o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, endid Catholig yn bennaf. Roedd Cyngor Trent newydd gwblhau ei waith a chyhoeddi ei gasgliadau a'i archddyfarniadau yn erbyn y grefydd Brotestannaidd, a dim ond mewn ardaloedd â llywodraethwr Lwtheraidd yr oedd Heddwch Augsburg wedi caniatáu goddef Lwtheriaeth fel athrawiaeth. Gwrthsefyll dysgeidiaethau'r Eglwys Gatholig Rufeinig oedd un o amcanion y catecism yn ogystal â gwrthsefyll rhai'r Ailfedyddwyr a Gnesio-Lwtheriaid "caeth" fel Tilemann Heshusius (newydd ei ddyrchafu yn uwcharolygydd cyffredinol y brifysgol)[6] a Matthias Flacius, grwpiau a oedd yn erbyn dylanwadau Diwygiedig Ffredrig, yn enwedig ar fater y Cymun.

Seiliodd y catecism bob un o'i ddatganiadau ar adnodau o'r Beibl, ond parhaodd y Lwtheriaid "caeth" i ymosod arno dan arweiniad Heshusius a Flacius. Galwodd Maximilian II ar Ffredrig i ateb cyhuddiadau o dorri Heddwch Augsburg ac yn 1566 amddiffynnodd Ffredrig y catecism yng Nghymanfa Augsburg fel un a seiliwyd ar yr Ysgrythurau yn hytrach nag ar Galfiniaeth. Wedi hynny, buan y derbyniwyd y catecism yn eang.[6]

Rhennir y catecism yn 52 o adrannau, o'r enw "Dyddiau'r Arglwydd", a gynlluniwyd i gael eu dysgu ar 52 Saboth y flwyddyn. Cymeradwyodd synod yn Heidelberg y catecism yn 1563. Yn yr Iseldiroedd, cymeradwywyd y catecism gan Synodau Wesel (1568), Emden (1571), Dort (1578), yr Hâg (1586), yn ogystal â chan Synod mawr Dort yn 1618-19, a'i derbyniodd fel un o Dair Ffurf Undod, ynghyd a'r Gyffes Felgig a Chanonau Dort.[7] Roedd yn ofynnol i flaenoriaid a diaconiaid gytuno â'r catecism a'i gadw, ac i weinidogion bregethu ar adran ohono bob dydd Sul er mwyn cynyddu gwybodaeth ddiwinyddol aelodau'r eglwys, a oedd yn aml yn wael ar y pryd.[7] Mewn llawer o enwadau Diwygiedig sy'n tarddu o'r Iseldiroedd, mae'r arfer hwn yn parhau hyd heddiw.

Strwythur[golygu | golygu cod]

Yn ei ffurf bresennol, mae Catecism Heidelberg yn cynnwys 129 o gwestiynau ac atebion. Rhennir y rhain yn dair prif ran:

I. Trueni Dyn[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan hon yn cynnwys ail, trydydd a phedwerydd Dydd yr Arglwydd. Mae'n ymdrin ag:

  • Y Cwymp
  • Cyflwr naturiol dyn
  • Hawliadau Duw arno yn Ei gyfraith

II. Prynedigaeth Dyn[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan hon yn cynnwys pumed Dydd yr Arglwydd hyd at 31ain Dydd yr Arglwydd. Mae'n trafod:

  • Angen Gwaredwr
  • Pwysigrwydd ffydd, yr esbonnir ei chynnwys drwy eglurhau 12 erthygl y ffydd Gristnogol, sef Credo'r Apostolion. Mae'r drafodaeth ar yr erthyglau hyn yn cael ei rhannu ymhellach yn adrannau ar:
    • Dduw Dad a'n creadigaeth (9fed–10fed Dyddiau'r Arglwydd)
    • Duw Fab a'n hiachawdwriaeth (11eg–19eg Dyddiau'r Arglwydd)
    • Duw'r Ysbryd Glân a'n sancteiddiad (20fed–22ain Dyddiau'r Arglwydd)
  • Cyfiawnhad
  • Sacramentau Bedydd a Swper yr Arglwydd
  • Allweddau Teyrnas Nef, Pregethu'r Efengyl a Disgyblaeth Eglwysig

III. Y Diolchgarwch sydd ar Ddyn i Dduw (am y fath brynedigaeth)[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan hon yn cynnwys 32ain Dydd yr Arglwydd hyd at 52ain Dydd yr Arglwydd. Sonia am:

  • Dröedigaeth (32ain–33ain Dyddiau'r Arglwydd)
  • Y Deg Gorchymyn (34ain–44ain Dyddiau'r Arglwydd)
  • Gweddi'r Arglwydd (45ain–52ain Dyddiau'r Arglwydd)

Dydd Cyntaf yr Arglwydd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen Dydd cyntaf yr Arglwydd fel crynodeb o'r catecism cyfan. Mae hwn yn enghreifftio cymeriad y gwaith cyfan, sydd yn ddefosiynol yn ogystal â bod yn athrawiaethol. Mae'r Cwestiwn ac Ateb cyntaf fel a ganlyn:

Beth yw dy unig gysur mewn bywyd ac mewn angau?

Yr ateb yw:

Nad ydwyf i, gyda'm corff a'm henaid, mewn bywyd ac mewn angau, yn perthyn i mi fy hun, ond i'm Gwaredwr ffyddlon Iesu Grist; sydd wedi talu yn llawn dros fy mhechodau oll trwy ei waed gwerthfawr, a'm gwaredu rhag holl rym y diafol; ac yn fy nghadw fel na all blewyn gwympo o'm pen heb ewyllys fy Nhad yn y nefoedd; yn wir, bod yn rhaid i bob peth wasanaethu i'm gwaredigaeth. Felly, trwy Ei Ysbryd Glân, y mae'n fy sicrhau o fywyd tragwyddol, ac yn fy ngwneud yn ewyllysgar ac yn barod o'r galon i fyw, o hyn ymlaen, er Ei fwyn Ef.

Degfed Dydd yr Arglwydd ar Hufain[golygu | golygu cod]

Yr atodiadau i 30ain Dydd yr Arglwydd yn ail a thrydydd argraffiad y catecism sydd yn amlygu ei wrth-Babyddiaeth yn eglur. Maent yn lladd ar "yr offeren babaidd" am fod yn "eilunaddoliaeth felltigedig".

Yn dilyn y Rhyfel Naw Mlynedd, roedd Heidelberg a'r Freiniarllaeth unwaith eto mewn sefyllfa wleidyddol ansefydlog gyda brwydrau sectyddol yn mynd ymlaen yno.[8] Yn 1719 cyhoeddwyd argraffiad o'r catecism yn y Freiniarllaeth a oedd yn cynnwys 30ain Dydd yr Arglwydd. Roedd ymateb y Pabyddwyr cyn gryfed fel y gwaharddwyd y catecism gan Siarl III Philip, Etholwr Palatin. Ymatebodd gwledydd Diwygiedig i hyn, a arweiniodd wedyn at wrthdroi'r gwaharddiad.[9]

Mewn rhai enwadau Diwygiedig mae cwestiynau ac atebion 80, sef rhai cyntaf 30ain Dydd yr Arglwydd, wedi cael eu tynnu o'r catecism, eu rhoi mewn cromfachau ac/neu eu nodi fel ychwanegiadau i'r testun gwreiddiol.[10]

Ei ddefnydd mewn gwahanol enwadau a thraddodiadau[golygu | golygu cod]

Stamp gan y Deutsche Bundespost o 1963 i ddathlu pedwar canmlwyddiant Catecism Heidelberg

Bu'r catecism yn ddylanwad ar ddiwinyddion Cymanfa Westminster, a'i defnyddiodd, yn rhannol, fel sail i'w Catecism Lleiaf.

Mae Catecism Heidelberg yn un o'r tair cyffes Ddiwygiedig sy'n sylfaen athrawiaethol i Eglwys Ddiwygiedig wreiddiol yr Iseldiroedd, ac fe'i cydnabyddir felly hefyd gan eglwysi Calfinaidd yr Iseldiroedd sy'n tarddu o'r eglwys honno ers y 19eg ganrif.

Mae sawl enwad Protestannaidd yng Ngogledd America yn arddel y catecism yn swyddogol: yr Eglwys Bresbyteraidd yn America, ECO (Urdd Gyfamodol o Bresbyteriaid Efengylaidd), yr Eglwys Ddiwygiedig Gristnogol, yr Eglwysi Diwygiedig Unedig, yr Eglwys Bresbyteraidd (UDA), yr Eglwys Ddiwygiedig yn America, Cymundeb yr Eglwysi Efengylaidd Diwygiedig, Eglwys Unedig Crist (yr olynydd i'r eglwysi Diwygiedig o'r Almaen), yr Eglwys Ddiwygiedig yn yr Unol Daleithiau (hefyd o'r traddodiad Almaenaidd), Cymdeithas Efengylaidd Eglwysi Cristnogol Diwygiedig a Chynulleidfaol,[11] Eglwysi Diwygiedig Rhydd Gogledd America, y Cynulleidfaoedd Diwygiedig Etifeddol, Eglwysi Diwygiedig Canada ac America, Eglwysi Diwygiedig Protestannaidd a nifer o eglwysi Calfinaidd eraill o'r traddodiad Iseldiraidd o gwmpas y byd. Yn yr un modd, mae Llyfr Disgyblaeth yr Eglwys Fethodistaidd Unedig yn ei restru fel dylanwad ar Fethodistiaeth Unedig.

Paratowyd adolygiad o'r catecism gan weinidog y Bedyddwyr, Hercules Collins. Fe'i cyhoeddwyd yn 1680 dan y teitl An Orthodox Catechism ac roedd ei gynnwys union yr un fath â Chatecism Heidelberg, ar wahân i'r cwestiynau ar fedyddio, lle'r oedd trochi oedolion yn cael ei amddiffyn yn lle bedyddio babanod a defnyddio dulliau eraill megis arllwysiad a thanelliad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Emil Sehling, gol., Die evangelischen Kirchenordnungen des XVI. Jahrhunderts, Band 14, Kurpfalz (Tübingen: J. C. B. Mohr (Paul Siebeck), 1969), 343: "Und demnach mit rhat und zuthun unserer gantzen theologischen facultet allhie, auch allen superintendenten und fürnemsten kirchendienern einen summarischen underricht oder catechismum unserer christlichen religion auß dem wort Gottes beides, in deutscher und lateinisher sprach, verfassen und stellen lassen, damit fürbaß nicht allein die jugendt in kirchen und schulen in solcher christlicher lehre gottseliglichen underwiesen und darzu einhelliglichen angehalten, sonder auch die prediger und schulmeister selbs ein gewisse und bestendige form und maß haben mögen, wie sie sich in underweisung der jugendt verhalten sollen und nicht ires gefallens tegliche enderungen fürnemen oder widerwertige lehre einfüren."
  2. Lyle Bierma, "The Purpose and Authorship of the Heidelberg Catechism," yn An Introduction to the Heidelberg Catechism: Sources, History, and Theology (Grand Rapids: Baker, 2005), 67.
  3. Goeters, J.F. Gerhard (2006), "Zur Geschichte des Katechismus", Heidelberger Katechismus: Revidierte Ausgabe 1997 (3rd ed.), Neukirchen-Vluyn: Neukirchener Verlag, p. 89.
  4. "History", Heidelberg catechism, http://www.heidelberg-catechism.com/en/history/?s=15.
  5. "Preface", Heidelberg catechism, Amazon, http://heidelberg-catechism.s3.amazonaws.com/Original%20Preface%20of%20Heidelberg%20Catechism%20%281563%29.pdf.
  6. 6.0 6.1 Wikisource Chisholm, Hugh, gol. (1911). "Heidelberg Catechism, The". Encyclopædia Britannica. 13 (arg. 11th). Cambridge University Press. t. 211.
  7. 7.0 7.1 "Historical Background", Heidelberg Catechism (FRC), http://www.frcna.org/Creeds/Heidelberg/background.ASP, adalwyd 2008-01-03.
  8. Heidelberg#Modern history.
  9. Thompson, Andrew C. (2006). Britain, Hanover and the Protestant Interest, 1688-1756. ISBN 9781843832416.
  10. "CRC Releases Final Report on Catholic Eucharist". Christian Reformed Church in North America. 25 Chwefror 2008. Cyrchwyd 20 Mawrth 2021.
  11. "Historic Resource Library". Evangelical Association of Reformed and Congregational Christian Churches. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-03. Cyrchwyd Mehefin 23, 2015.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]