Castries
Gwedd
| Arwyddair | Statio Haud Malefida Carinis |
|---|---|
| Math | dinas, tref |
| Enwyd ar ôl | Charles Eugène Gabriel de La Croix |
| Poblogaeth | 20,000 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC−04:00, America/St_Lucia |
| Gefeilldref/i | Taipei |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Castries Quarter |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 79 km² |
| Uwch y môr | 2 ±1 metr |
| Gerllaw | Môr y Caribî |
| Cyfesurynnau | 14.02°N 60.98°W, 13.9957°N 61.00614°W |
![]() | |

Prifddinas a dinas fwyaf Sant Lwsia yn y Caribî yw Castries. Mae ganddi boblogaeth o 10,634 gyda 37,962 o bobl yn yr ardal drefol a 61,341 yn Rhanbarth Castries. Fe'i lleolir ar lan bae cysgodol yng ngogledd-orllewin yr ynys. Sefydlwyd Castries gan y Ffrancwyr yn yr 17g fel "Carenage". Ail-enwyd y ddinas yn y 18g ar ôl Charles Eugène Gabriel de La Croix, marquis de Castries. Heddiw, mae'r ddinas yn gyrchfan dwristaidd gydag angorfa ar gyfer llongau mordaith a sawl traeth gerllaw. Mae'r harbwr yn allforio llysiau a ffrwythau trofannol megis bananas.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Derek Walcott (1930-2017) a'i frawd gefell Roderick Walcott (1930-2017), dramodydd
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cyngor Dinas Castries Archifwyd 2009-12-10 yn y Peiriant Wayback
