Carwyn: Yn Erbyn y Gwynt

Oddi ar Wicipedia
Carwyn: Yn Erbyn y Gwynt
AwdurAlun Gibbard
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784611644
GenreCofiannau Cymraeg

Cyfrol gan Alun Gibbard yw Carwyn: Yn Erbyn y Gwynt a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Cofiant cynhwysfawr i Carwyn James (1929-83), athro ac awdur, darlledwr a gwleidydd, chwaraewr rygbi rhyngwladol a hyfforddwr disglair, ond enaid clwyfus, serch hynny. Trafodir amryfal agweddau ar ei fywyd a'i waith ynghyd â chydnabod ei gyfraniad cyfoethog i fywyd cyhoeddus Cymru. Cynhwysir 88 o luniau, nifer ohonynt yn rhai nas cyhoeddwyd o'r blaen.

Wedi dros chwarter canrif o ddarlledu ar deledu a radio yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae Alun Gibbard bellach yn awdur amser llawn. Erbyn hyn mae wedi cyhoeddi dros ugain o lyfrau ffeithiol greadigol yn y ddwy iaith. Roedd ei gyfrol Who Beat the All Blacks? ar restr fer y British Sports Book Awards 2013 ac yn yr un flwyddyn, bu'n gadeirydd panel beirniaid Llyfr y Flwyddyn. Mae hefyd yn cyfrannu'n wythnosol i gylchgrawn Golwg.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.