Caol an t-Snàimh
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/28/Colintraive01LB.jpg/250px-Colintraive01LB.jpg)
Mae Caol an t-Snàimh (Saesneg: Colintraive) yn bentref ar Benrhyn Cowal yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae fferi Calmac rhwng y pentref a Rhubodach ar Ynys Bute.[1][2] Ystyr ‘ Caol an t-Snàimh’ yw ‘culfor nofio’;nofiodd gwartheg dros y culfor ar eu ffordd i farchnadoedd y tir mawr. Mae gan y pentref swyddfa’r post, canolfan dreftadaeth, gardd dreftadaeth a gwesty[1]. Ar un adeg, perchennog y gwesty oedd Ken Sykora, gitarydd jazz.