Canu pop a roc yn yr Ynys Las
Enghraifft o'r canlynol | cerddoriaeth yn ôl gwlad neu ardal, genre gerddorol |
---|---|
Math | cerddoriaeth gwledydd Nordig |
Gwladwriaeth | Yr Ynys Las |
Er gwaethaf ei lleioliad daearyddol anghysbell a phoblogaeth o lai na 50,000 ac iaith unigryw, mae canu poblogaidd roc cynhenid yr Ynys Las yn boblogaidd ac yn denu sylw tu allan i'r Ynys Las.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Tan canol yr 20g, roedd yr Ynys Las wedi'i hynysu oddi ar ganu poblogaidd Gogledd America ac Ewrop. Un o'r bandiau cyntaf i ddod o'r genedl sy'n hunanlywodraethol ond yn rhan o Deyrnas Denmarc], oedd yr Nuuk Orleans Jazz Band.[2]
Roc
[golygu | golygu cod]Dechreuodd canu pop a roc yr Ynys Las yn 1973 pan gyhoeddwyd yr albwm Sumut gan y band Sume ar label ULO, un o'r labeli recordio cyntaf.[3] Roedd Sumut yn boblogaidd iawn ledled y wlad. Prynodd tua ugain y cant o boblogaeth yr Ynys Las y record, gyda chanu yn yr iaith Kalaallisut (gelwir hefyd yn 'Glasynyseg') a rhoi lle amlwg i ddrwm-ddawnsio traddodiadol yn y caneuon. Cymerodd y canwr, Rasmus Lyberth, ran yn y proses o ddewis cân i Ddenmarc ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision yn 1979. Cân yn Kalaallisut oedd honno. Ffurfiwyd nifer o fandiau roc a pop yn y 1980au a 1990au. Enghreifftiau da o fandiau roc oedd G-60 ac Ole Kristiansen, a bandiau ysbrydolwyd gan reggae Jamaica a ffync Affro-Americanaidd oedd Aalut a Zikaza. Gwerthodd albwm cyntaf Zikaza 10,000 o gopiau (oddeutu 50,000 yw poblogaeth yr Ynys Las). Yn lle derbyn disg aur neu blatinwm fel gwobr, derbynasant ddisg croen morlo.
Cynhelir yr ŵyl roc Nipiaa pob blwyddyn yn Aasiaat, a cantorion poblogaidd yw Chilly Friday, a gwddf-gantoresau Sylvia Watt-Cloutier a Karina Moller. Bandiau roc enwog eraill ydy Kalaat, Siissisoq, Angu Motzfeldt, Pukuut, X-it, Fiassuit, Nanook, Small Time Giants a Ultima Corsa. Cerddoriaeth metal sy'n dod yn fwy amlwg yn yr Ynys Las, er enghraifft Arctic Spirits. Maen nhw'n canu yn Kalaallisut yn unig.
Hip hop
[golygu | golygu cod]Ers 1984, hip hop America oedd dylanwad pwysig. Nuuk Posse ydy un band hip hop llwyddiannus diweddar.[3]
Diwydiant cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Y label recordio mwyaf yn yr Ynys Las ydy ULO, o Sisimiut; ffurfiwyd ef gan Malik Hoegh (aelod o'r band Sume) a Karsten Sommer o Ddenmarc.[4] ULO sy'n cyhoeddi albymau gan bandiau roc fel Sume, cantorion roc fel Rasmus Lyberth,[5] a bandiau hip hop fel Nuuk Posse yn ogystal â chanu traddodiadol.[3]
Kalaallit Nunaata Radioa (Radio yr Ynys Las) ydy'r sefydliad cyfryngau pwysicaf yn y wlad.
Caneuon
[golygu | golygu cod]- Nuuk Posse - Oqariartuut
- Sume - Inuit Nunaat
- G60 - Piumassuseqaruit
- Ole Kristiansen - Zoo Inuillu
- Zikaza - Miki
- Karina Moller - Pukuut - Anneruniaq
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Eitem newyddion 'Rock music from Greenland'
- Nanook - Fideo "Nanook"
- Nanook - Fideo Ingerlaliinnaleqaagut
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=v7xHIX-4Klo
- ↑ Mark Sabbatini (13 Hydref 2005). "Going To Extremes To Find Jazz In Greenland". All About Jazz (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Hydref 2021.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Bours, Etienne (2000). "Sealskin Hits". In Broughton, Simon; Ellingham, Mark; McConnachie, James; Duane, Orla (gol.). World Music, Vol. 1: Africa, Europe and the Middle East (yn Saesneg). Rough Guides. tt. 143–145. ISBN 1-85828-636-0.
- ↑ Orla Duane; James McConnachie; Frederick Dorian; Vanessa Dowell (1999). World Music: Africa, Europe and the Middle East (yn Saesneg). Rough Guides. t. 143.
- ↑ Hara, Kevin (2003). South Greenland : an Arctic paradise (yn Saesneg). Ottawa: Uanga Pub. t. 60. ISBN 9781894673129.