Cana Dy Gân (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Cana Dy Gân
Clawr Cana Dy Gân
Albwm stiwdio gan Dafydd Iwan
Rhyddhawyd Awst 2012
Label Sain

Albwm gan y canwr Dafydd Iwan yw Cana Dy Gân. Rhyddhawyd yr albwm yn Awst 2012 ar y label Sain.

Cyhoeddwyd Cana Dy Gân i ddathlu achlysur hanner can mlwyddiant o berfformio gan Dafydd Iwan, un o artistiaid Cymraeg mwyaf cyson boblogaidd y 5 degawd blaenorol. Mae'r albwm yn gasgliad cyflawn o'i gerddoriaeth, gyda 219 o ganeuon wedi eu recordio rhwng 1966 a 2011, a’u gwasgaru dros ddeuddeg CD.

Dewiswyd Cana Dy Gân yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]