Neidio i'r cynnwys

Cabala

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Cabbala)
Cyfieithiad Lladin o Shaarei Ora gan Gikatilla

Dull esoterig, disgyblaeth, ac ysgol o feddwl mewn cyfriniaeth Iddewig[1] yw Cabala (/kəˈbɑːlə, ˈkæbələ/ kə-BAH-lə-,_-kab-Ə-lə; Hebrew: קַבָּלָה, romanized: Qabbālā, lit.'derbyn, traddodiad', a hefyd Kabbalah neu Qabalah).[2][a] Mae'n sylfaen i ddehongliadau crefyddol cyfriniol yn Iddewiaeth.[1][3] Enw ar Cabalydd traddodiadol yw Mekubbal (מְקֻובָּל, Məqubbāl, 'derbyniwr').[1]

Datblygodd Cabalyddion Iddewig ffyrdd o drosglwyddo prif destunau Cabala a oedd yn ymwneud â'r traddodiad Iddewig[1][3] ac sydd fel arfer yn defnyddio ysgrythurau Iddewig clasurol er mwyn egluro a dangos ei dysgeidiaethau cyfriniol. Yn ôl Cabalyddion, mae'r dysgeidiaethau hyn yn diffinio ystyr craidd y Beibl Hebraeg a llenyddiaeth Rabineg draddodiadol ill dau a'u gwybodaeth gyfrinachol, ynghyd ag esbonio pwysigrwydd arferion crefyddol Iddewon.[4]

Yn hanesyddol, daeth Cabala o ffurfiau cynnar o gyfriniaeth Iddewig, yn al-Andalus (Sbaen) o'r 12fed i'r 13eg ganrif ac ym Mhrofens Hakhmei.[1][3] Ymhellach, cafodd ei hailddehongli yn ystod y dadeni cyfriniol Iddewig ym Mhalestina Otomanaidd yr 16eg ganrif.[1] Ysgrifennwyd y Zohar, un o brif destunau Cabala, ddiwedd y 13eg ganrif, yn ôl pob tebyg gan Moses de León. Ystyrir Isaac Luria (16eg ganrif) yn dad Cabala cyfoes; poblogeiddiwyd Cabala Lurianaidd ar ffurf Iddewiaeth Hasidig o'r 18fed ganrif ymlaen.[1] Yn ystod yr 20fed ganrif, mae diddordeb academaidd mewn testunau Cabalistig dan arweiniad yr hanesydd Iddewig Gershom Scholem yn bennaf wedi ysbrydoli datblygiad ymchwil hanesyddol ar Gabala ym maes astudiaethau Iddewig.[5][6]

Er bod gweithiau bach yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r Cabala fel traddodiad sy'n esblygu, y Bahir, Zohar, Pardes Rimonim, a'r Etz Chayim ('Ein Sof') yw'r prif destunau.[7] Cydnabyddir llenyddiaeth Hechalotaidd yn sylfaen o bwys mawr i'r Cabala [8] ac yn fwy penodol, cydnabyddir y Sefer Yetzirah yn darddiad ffurfiol i lawer o'r llyfrau hyn. Dogfen fer sy'n cynnwys ambell dudalen yw'r Sefer Yetzirah, a gafodd ei hysgrifennu ganrifoedd cyn gwaith uchel a chanol yr oesoedd canol (rhywbryd rhwng 200-600CE), gan gyflwyno fersiwn alffaniwmerig ar gosmoleg. Gellir deall hyn yn fath o ragarweiniad ar ganon Gabala.[7]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Nodiadau

[golygu | golygu cod]
  1. Originally a Mishnaic Hebrew term for Nakh, the term was commonly used to mean 'received tradition' or 'chain of tradition' by the Geonic period.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dyfyniadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Ginzberg, Louis; Kohler, Kaufmann (1906). "Cabala". Jewish Encyclopedia. Kopelman Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 November 2011. Cyrchwyd 23 October 2018.
  2. "קַבָּלָה". /www.morfix.co.il. Melingo Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 March 2016. Cyrchwyd 19 November 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 Dennis, Geoffrey W. (18 June 2014). "What is Kabbalah?". ReformJudaism.org. Union for Reform Judaism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2015. Cyrchwyd 25 October 2018. Historians of Judaism identify many schools of Jewish esotericism across time, each with its own unique interests and beliefs. Technically, the term "Kabbalah" applies only to writings that emerged in medieval Spain and southern France beginning in the 13th century. [...] Although until today Kabbalah has been the practice of select Jewish "circles," most of what we know about it comes from the many literary works that have been recognized as "mystical" or "esoteric." From these mystical works, scholars have identified many distinctive mystical schools, including the Hechalot mystics, the German Pietists, the Zoharic Kabbalah, the ecstatic school of Abraham Abulafia, the teachings of Isaac Luria, and Chasidism. These schools can be categorized further based on individual masters and their disciples.
  4. "Imbued with Holiness" Archifwyd 2010-10-12 yn y Peiriant Wayback – The relationship of the esoteric to the exoteric in the fourfold Pardes interpretation of Torah and existence. From www.kabbalaonline.org
  5. Huss, Boaz; Pasi, Marco; Stuckrad, Kocku von, gol. (2010). "Introduction". Kabbalah and Modernity: Interpretations, Transformations, Adaptations. Leiden: Brill Publishers. tt. 1–12. ISBN 978-90-04-18284-4.
  6. Magid, Shaul (Summer 2014). "Gershom Scholem". In Edward N. Zalta (gol.). Stanford Encyclopedia of Philosophy. Center for the Study of Language and Information. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 February 2023. Cyrchwyd 23 October 2018.
  7. 7.0 7.1 Scholem (1995).
  8. Scholem (1960); Scholem (1995).

Gwaith a ddyfynnwyd

[golygu | golygu cod]

Nodyn:JewishEncyclopedia

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.