C.P.D Gwalchmai

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae C.P.D Gwalchmai yn dim pêl-droed o Walchmai yn Ynys Mon. Sefydlwyd yn 1946. Mae'n chwarae ei gemau cartef yn Maes Meurig, sydd weithiau yn cael ei adnabod o'r enw "Burn-a-ball." Ei rheolwr yw Martin Jones, ac mae'r clwb yn rhan o Gynghrair Gwynedd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth eu llwyddiant mewn cynghrair a gofnodwyd gyntaf yn nhymor 1951/1952, pan ddaeth yn Bencampwyr Adran 3B. Ers hynny mae'r clwb wedi parhau'n llwyddiannus trwy fod yn bencampwyr Cynghrair Ynys Mon mewn deg achlysur arall. Dros y blynyddoedd, mae'r clwb wedi cyflawni llwyddiant mawr mewn amrywiaeth o gystadleuaethau, gan gyrraedd 49 rownd derfynol, ennill 26, ac ennill y N.W.C.F.A cwpan dair gwaith. Daeth y cyfnod mwyaf llwyddiannus i'r clwb pan ddaeth Will Williams a Harry Lee Williams yn rheolwyr yn y 1970au cynnar. Yn ystod eu hamser fel rheolwyr fe enillon nhw lawer o dlysau gan gynnwys chwe pencampwriaethau'r Gynghrair, tair Cwpan Dargie a phum Cwpan Megan. Yn 2003, ddaeth Paul Owen yn rheolwr y clwb, gyda Kenny Jones yn ymuno yn hwyrach, fel cyd-reolwr. Yna, gyrraeddodd i dair rownd derfynol yn ystod y tymor 2004/05. Yn y tymor 2007/08 enillodd y clwb Gynghrair Môn yn ogystal â bod yn ail yng Nghwpan Elias. Yn sgil ennill cynghrair Môn, wnaeth y clwb ennill dyrchafiad i Cynghrair Gwynedd.

Cyn-chwaraewyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]