Bwa saeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Benyw yn tynnu'r bwa yn barod i'w saethu.
Saeth modern yn gorwedd ar ran o'r bwa; yn wreiddiol, byddai'r saeth yn gorwedd ar fys y saethwr.

Arf i ladd person neu anifail yw bwa saeth; caiff ei ddefnyddio ar gyfer hela neu ryfel neu mewn gemau cystadleuol. Gelwir yr wyddor neu'r grefft o saethu gyda bwa saeth yn saethyddiaeth. Fe'i defnyddir ers cynhanes, gan bron pob diwylliant yn y byd. Hoff fwa'r Cymry oedd y bwa hir, ac ystyrir saethwyr Cymreig ymhlith y gorau drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Mae saethyddiaeth yn un o'r gemau Olympaidd modern.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r bwa wedi'i wneud o ddeunydd hyblyg, er mwyn saethu'r saeth at y targed. Yn draddodiadol, yng Nghymru, pren yr ywen a ddefnyddid fel arfer. Ceir llinyn sy'n cysylltu dau ben y bwa, ac ar y llinyn hwn y rhoddir y saethau. Tynnir y llinyn yn ei ôl, i gyfeiriad y saethwr, gyda'r bysedd yn dal y saeth yn sownd ynddo. Yna, rhyddheir y bysedd, a gwelir ynni potensial y bwa crwm yn cael ei drosglwyddo i'r saeth wrth iddo deithio drwy'r awyr.[1][2]

Mae ei ddefnydd wedi lleihau'n arw ers i bowdwr gwn a gynnau gael eu dyfeisio.

Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir llawer o gyfeiriadau i'r bwa saeth, gan gynnwys ym Marwnad Siôn y Glyn gan Lewis Glyn Cothi a ganodd:

bwa o flaen y ddraenen,
cleddau digon brau o bren...

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Paterson Encyclopaedia of Archery tt. 27-28
  2. Paterson Encyclopaedia of Archery t. 17