Brigantin
Gwedd
| Enghraifft o: | math o long, rigin |
|---|---|
| Math | two-masted ship, llong fasnach |
| Gwlad | Y Môr Canoldir |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/018_h5 |
| Thesawrws y BNCF | 40385 |
Mae brigantin yn fath o long hwylio â dau fast, gyda’r hwyliau wedi eu gosod yn groes i’r llong (square rig) ar y mast blaen, ac ar hyd y llong (fore-and-aft rig) ar y mast cefn. Gelwir llong dau fast â’r hwyliau wedi eu gosod yn groes i’r llong ar y ddau fast yn frig.
Daw’r gair o’r Eidaleg "brigantino". Defnyddid y math yma o long, gyda rhwyfau yn ogystal â hwyliau, ar Fôr y Canoldir yn wreiddiol, ac roedd yn ffefryn gan môr-ladron yno.
