Bregusrwydd a'r niwed o newid hinsawdd

Oddi ar Wicipedia
Bregusrwydd a'r niwed o newid hinsawdd
Mathyn agored i niwed Edit this on Wikidata
Rhan oymaddasu i newid hinsawdd Edit this on Wikidata

Diffinnir bregusrwydd newid hinsawdd (neu bod yn agored i niwed oherwydd effeithiau newid hinsawdd) fel y “tueddiad neu ragdueddiad i berson, pobl neu'r byd natur gael ei effeithio’n andwyol” gan newid hinsawdd. Yn Saesneg, defnyddir y term, climate change vulnerability. Gall fod yn berthnasol i fodau dynol a hefyd i systemau naturiol (ecosystemau). Mae bregusrwydd dynol a bregusrwydd yr ecosystem yn rhyngddibynnol: mae'r ddau'n agored i niwed[1] ac yn cwmpasu “amrywiaeth o gysyniadau ac elfennau, gan gynnwys sensitifrwydd neu dueddiad i niwed a diffyg gallu i ymdopi ac addasu”.[1]  Mae bregusrwydd yn elfen o risg hinsawdd ac yn amrywio o fewn cymunedau ac ar draws cymdeithasau, rhanbarthau a gwledydd, a gall newid dros amser.[1] Mae tua 3.3 i 3.6 biliwn o bobl yn byw mewn cyd-destunau sy'n agored iawn i newid yn yr hinsawdd yn 2021.[1]

Mae i ecosystemau a phobl fod yn agored i niwed oherwydd newid yn yr hinsawdd yn cael ei yrru gan rai patrymau datblygu anghynaliadwy megis "defnydd anghynaliadwy o'r cefnforoedd a'r tir, annhegwch, ymyleiddio, dadgoedwigo, patrymau hanesyddol fel gwladychiaeth, a llywodraethu annheg".[1] Felly, mae bregusrwydd yn waeth mewn lleoliadau gyda "tlodi, heriau llywodraethu a mynediad cyfyngedig i wasanaethau ac adnoddau sylfaenol, gwrthdaro treisgar a lefelau uchel o fywoliaethau sy'n sensitif i newid hinsawdd (ee, ffermwyr tyddynwyr, bugeiliaid, cymunedau pysgota)".[1]

Gellir rhannu'r bregusrwydd hwn yn bennaf yn ddau gategori mawr: bregusrwydd economaidd, yn seiliedig ar ffactorau economaidd-gymdeithasol, a bregusrwydd daearyddol. Nid yw'r naill na'r llall yn annibynnol ar ei gilydd.

Ceir nifer o sefydliadau ac offer gan y gymuned ryngwladol a gwyddonwyr i asesu bregusrwydd yr hinsawdd.

Gall bregusrwydd hinsawdd (neu ba mor agored i newid) gynnwys amrywiaeth eang o wahanol ystyron, sefyllfaoedd a chyd-destunau mewn ymchwil newid hinsawdd, ond mae wedi bod yn gysyniad canolog mewn ymchwil academaidd ers 2005.[2] Diffiniwyd y cysyniad yn nhrydydd adroddiad yr IPCC yn 2007 fel "i ba raddau y mae system yn agored i, ac yn methu ag ymdopi ag effeithiau andwyol newid hinsawdd, gan gynnwys amrywioldeb yr hinsawdd ac eithafion o ran y tywydd".[3] Dywedodd Chweched Adroddiad Asesiad yr IPCC yn 2022 fod "dulliau o ddadansoddi ac asesu bregusrwydd wedi esblygu ers asesiadau blaenorol yr IPCC".[1]  Yn yr adroddiad hwn, diffinnir bregusrwydd fel "y tueddiad neu ragdueddiad i gael ei effeithio'n andwyol, ac mae'n cwmpasu amrywiaeth o gysyniadau ac elfennau, gan gynnwys sensitifrwydd neu dueddiad i niwed a diffyg gallu i ymdopi ac addasu".[1] Datblygiad pwysig yw y cydnabyddir fwyfwy bod bregusrwydd ecosystemau a phobl i newid hinsawdd yn amrywio’n sylweddol rhwng ac o fewn rhanbarthau a gwledydd.[1]

Graddfa[golygu | golygu cod]

Mae bregusrwydd (a bod yn agored i niwed) yn amrywio o fewn cymunedau ac ar draws cymdeithasau, rhanbarthau a gwledydd, a gall newid dros amser.[1] Mae tua 3.3 i 3.6 biliwn o bobl yn byw mewn cyd-destunau sy'n agored iawn i newid hinsawdd yn 2021.[1]  Mae asesiad o'r bregusrwydd hwn yn bwysig oherwydd ei fod yn darparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i ddatblygu camau rheoli mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd.[4]

Mae cymunedau agored i niwed yn tueddu i fod ag un neu fwy o'r nodweddion hyn:[5]

  • cyflenwad bwyd ansicr
  • prinder dŵr
  • ecosystem forol bregus
  • yn dibynnu ar bysgod
  • yn gymuned fechan, ynysig

Cysyniadau cysylltiedig[golygu | golygu cod]

Addasu rhag newid hinsawdd[golygu | golygu cod]

Mae bregusrwydd yn aml yn cael ei fframio ar yr un gwynt ag addasu rhag newid hinsawdd. Yn Chweched Adroddiad Asesiad yr IPCC yn 2022, diffiniwyd addasu hinsawdd fel "y broses o addasu i hinsawdd wirioneddol neu ddisgwyliedig a'i effeithiau er mwyn lleihau'r niwed neu fanteisio ar gyfleoedd buddiol", mewn systemau dynol. Mewn systemau naturiol ar y llaw arall, addasu yw "y broses o addasu i hinsawdd wirioneddol, a'i effeithiau"; gall ymyrraeth ddynol hwyluso hyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 IPCC, 2022: Summary for Policymakers [H.-O. Pörtner, D.C. Roberts, E.S. Poloczanska, K. Mintenbeck, M. Tignor, A. Alegría, M. Craig, S. Langsdorf, S. Löschke, V. Möller, A. Okem (eds.)]. In: Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [H.-O. Pörtner, D.C. Roberts, M. Tignor, E.S. Poloczanska, K. Mintenbeck, A. Alegría, M. Craig, S. Langsdorf, S. Löschke, V. Möller, A. Okem, B. Rama (eds.)]. Cambridge University Press, Cambridge, UK and New York, NY, USA, pp. 3–33, doi:10.1017/9781009325844.001.
  2. Füssel, Hans-Martin (2005-12-01) (yn en). Vulnerability in Climate Change Research: A Comprehensive Conceptual Framework. https://escholarship.org/uc/item/8993z6nm. Adalwyd 2020-12-26.
  3. IPCC (2007a). "Climate Change 2007: Synthesis Report. Contribution of Working Groups I, II and III to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change (Core Writing Team, Pachauri, R.K and Reisinger, A. (eds.))". IPCC, Geneva, Switzerland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-02. Cyrchwyd 2009-05-20.
  4. "Climate Change Vulnerability Assessments | Climate Change Resource Center". www.fs.usda.gov. Cyrchwyd 2022-10-04.
  5. Kasperson, Roger E., and Jeanne X. Kasperson. Climate change, vulnerability, and social justice. Stockholm: Stockholm Environment Institute, 2001.