Box Hill, Surrey
Gwedd
Math | bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Mole Valley |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 224 metr |
Cyfesurynnau | 51.255°N 0.3086°W |
Cod OS | TQ2039951713 |
Amlygrwydd | 49 metr |
Cadwyn fynydd | Twyni Gogleddol |
Bryn yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, yw Box Hill, sy'n rhan o Dwyni Gogleddol. Mae enw’r bryn yn dod o’r coed bocs (Buxus sempervirens; Saesneg: box) ar lethrau gorllewinol y bryn. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol piau’r rhan orllewinol. Mae’n 224 medr uwchben lefel y môr. Mae caffi a maes parcio ar ben ac ar waelod y bryn.[1]
Ceir golygfeydd o Gofeb Salomon ar y copa, a gosodwyd gynnau yno yn ystod y rhyfeloedd byd.[2] Claddwyd Peter Labelliere o Dorking wyneb i waered ar ben y bryn.[1]