Neidio i'r cynnwys

Boléro

Oddi ar Wicipedia
Boléro
Enghraifft o:ballet, gwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1929 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1928 Edit this on Wikidata
Genrebolero Edit this on Wikidata
Enw brodorolBolero Edit this on Wikidata
CyfansoddwrMaurice Ravel Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01vcgw edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ida Rubinstein, yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r darn Bolero. Portread gan Valentin Serov.

Mae'r erthygl hon yn sôn am waith cerddorol gan Ravel.

Maurice Ravel yw cyfansoddwr Boléro. Mae'r darn yn adnabyddus iawn; cafodd ei gyfansoddi fel ballet yn wreiddiol a hynny yn 1928 ar gyfer cerddorfa. Disgrifiai Ravel y darn fel darn dibwys a dywedai ei fod fel 'darn i geddorfa heb gerddoriaeth'.

Ar wahân i ddau neu dri darn bychan arall o waith (megis y Don Quichotte à Dulcinée), dyma oedd gwaith olaf y cyfansoddwr cyn iddo ymddeol oherwydd gwaeledd.

Comisiwn oedd y darn hwn o waith gan Ida Rubenstein, ar gyfer y piano ac yn un o chwe darn comisiwn. Ar ei wyliau yn St Jean-de-Luz oedd Ravel pan sgwennodd y darn. Chwaraeodd y darn i'w gyfaill Gustave Samazeuilh gydag un bys ar y piano gan ddweud wrtho, 'Yn dydy'r dôn yma'n swnio'n hyfryd? Dwi am ailadrodd yr alaw yma drosodd a throsodd.' Galwodd y darn yn Fandango.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.