Bnar Talabani

Oddi ar Wicipedia

Meddyg o Gaerdydd yw Bnar Talabani (ganed 1988), a gafodd yr MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2022.[1][2]

Mae Dr Talabani yn arbenigo mewn meddygaeth arennau a thrawsblaniadau. Ar ôl hyfforddi fel meddyg, roedd hi'n fyfyrwraig neffroleg ar raglen Hyfforddiant Academaidd Clinigol GW4 (CAT) GW4 a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome.[3] Mae hi’n aelod o grŵp ymateb Covid-19 Meddygol Cymru.

Cafodd ei geni yn Irac ym 1988. Roedd hi'n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ledled Iran, Irac a Syria; daeth i fyw i'r Deyrnas Unedig yn blentyn.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The full list of Welsh people on the Queen's New Year Honours list" (yn Saesneg). Office of the Secretary of State for Wales. 31 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  2. "Welsh Secretary celebrates New Year Honours recipients" (yn Saesneg). Office of the Secretary of State for Wales. 31 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  3. "HEIW Trainees on GW4 Clinical Academic Training Programme (GW4-CAT)". NHS Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.
  4. Reem Ahmed (22 Mai 2021). "The child refugee forced to flee Iraq who is now a top doctor in Cardiff taking on anti-vaxxers". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.