Blodeuglwm
Gwedd
| Enghraifft o: | cynnyrch |
|---|---|
| Math | bwndel, addurniad |
| Yn cynnwys | planhigyn blodeuol, cut flowers |
| Dynodwyr | |

Casgliad o flodau mewn trefniant creadigol yw blodeuglwm. Gellir eu trefnu ar gyfer addurno cartrefi neu adeiladau cyhoeddus, neu gellir eu cynnal â llaw. Addurniadau ydynt yn aml, a chânt eu defnyddio'n helaeth mewn priodasau yn arbennig, yn ogystal ag achlysuron arbennig eraill fel penblwyddi, angladdau a seremonïau gwobrwyo (yn y Gemau Olympaidd, er enghraifft). Gellir cysylltu symbolaeth â'r mathau o flodau a ddefnyddir, yn ôl y diwylliant.