Cragen ddeuglawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bivalvia)
Neidio i: llywio, chwilio
Haeckel Acephala

Dosbarth o organebau anfudol sy'n hidl-ymborthol ac sy'n perthyn i'r ffylwm Mollusca yw cragen ddeuglawr neu gregyn deuglawr (Saesneg: Bivalvia). Mae eu mantell yn secretu cragen wedi'i gwneud o ddau blât cymesur, wedi'u cysylltu i'r gewyn colfach, sy'n gallu agor a chau.

Nodweddir cregyn deuglawr hefyd gan fodolaeth dwy falf - siffonau mewnanadlu ac allanadlu. Gallant gladdu eu hunain mewn pridd i guddio, gan adael dim ond eu siffonau'n ymwthio allan. Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys cregyn gleision, cregyn bylchog ac wystrys.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]