Bistro

Oddi ar Wicipedia
Bistro
Matheating and lodging Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bistro ym Mharis, 1900.

Tŷ bwyta bychan gyda phrisiau rhesymol a bwyd gymharol syml ydy bistro gyda'i arddull yn Ffrengig. Efallai, fodd bynnag, mae'r nodwedd amlycaf o'r bistro yw ei fod yn coginio bwyd-cartref gyda prydau syml a gonest, megis cassoulet a phrydau eraill sydd wedi'u coginio'n araf. Mae'r fwydlen, os oes un, fel arfer yn fach.

Mae tarddiad y gair yn amwys; efallai mai o'r gair Rwsieg bystro (быстро), sef "yn gyflym" y daw.

Cysylltir y bistro gyda diodydd fel gwin, cwrw, coffi a cappuccino. Mae'r rhan ar gael yn y rhan fwyaf o'r bistros clasurol. Mae'r dodrefn hefyd yn syml, heb addurno ormodol. Yn hytrach, ceisir meithrin symlrwydd a'r ffordd o fyw Ffrengig.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]