Bhutan yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012
Enghraifft o'r canlynol | dirprwyaeth Olympaidd |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Cyfres | Bhutan at the Olympics |
Gwladwriaeth | Bhwtan |
Cystadlodd y deyrnas Asiaidd Bhwtan yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 yn Llundain, Lloegr, rhwng 27 Gorffennaf a 12 Awst 2012. Cystadlodd dau chwaraewr yn y gystadlaethau saethyddiaeth a saethu. Derbyniodd Bhwtan ddau safle wild card ar hap, a roddir i phob un o'r 204 Pwyllgor Olympaidd rhyngwladol, hyd yn oed os nad oes chwaraewr wedi cymhwyso, er mwyn cadarnhau bod pob gwlad yn gallu cymryd rhan.
Saethu
[golygu | golygu cod]Kunzang Choden, merch 28 oedd a gynrychiolodd Bhwtan yng nghystadleuaeth saethu reiffl aer 10 metr y merched. (nid yr un person a'r awdur o Bhwtan, Kunzang Choden).
Chwaraewr | Cystadleuaeth | Cymhwyso | Terfynol | ||
---|---|---|---|---|---|
Pwyntiau | Safle | Pwyntiau | Safle | ||
Kunzang Choden | Reiffl aer 10 m | 381 | 56 | Ni aeth ymhellach |
Saethyddiaeth
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Bhwtan safle wild card ar gyfer y gystadleuaeth hon.[1] Ym mis Mai 2012, dewisodd Bwyllgor Olympaidd Bhwtan y saethyddwraig 28 mlwydd oed, Sherab Zam, i gystadlu yn Llundain.[2] Caiff ei hyfforddi gan Tshering Chhoden, a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd 2000 a 2004.
Chwaraewr | Cystadleuaeth | Rownd ddethol | Rownd o 64 | Rownd o 32 | Rownd o 16 | Chwarteri | Hanneri | Terfynol | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Sgôr | Detholyn | Gwrthwynebydd Sgôr |
Gwrthwynebydd Sgôr |
Gwrthwynebydd Sgôr |
Gwrthwynebydd Sgôr |
Gwrthwynebydd Sgôr |
Gwrthwynebydd Sgôr |
Safle | ||
Sherab Zam | Merched unigol | 589 | 61 | Lorig (USA) (4) L 0–6 |
Ni aeth ymhellach |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archery Invitation places for London 2012 Olympic Games. FITA (19 Ebrill 2012). Adalwyd ar 19 Ebrill 2012.
- ↑ Sherab Zam to represent Bhutan in London. Bhutan Observer.