Bhopal
Gwedd
| Math | dinas fawr, dinas |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | राजा भोजः |
| Poblogaeth | 1,798,218 |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bhopal district, Sehore district, Bhopal State (1949–1956), Bhopal State |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 648.24 km² |
| Uwch y môr | 427 ±1 metr, 508 metr |
| Yn ffinio gyda | Achalpur |
| Cyfesurynnau | 23.2589°N 77.4125°E |
| Cod post | 462001 |
![]() | |

Bhopāl (Hindi: भोपाल ) yw prifddinas talaith Madhya Pradesh yn India, a'r ail-fwyaf o ddinasoedd Madhya Pradesh ar ôl Indore. Adwaenir Bhopal fel "Dinas y Llynnoedd" oherwydd y nifer o lynnoedd naturiol a'r rhai wedi eu creu sydd o amgylch y ddinas.
Daeth y ddinas yn adnabyddus trwy'r byd oherwydd Trychineb Bhopal, pan bu ffrwydriad anferth gan ollwng y nwy gwenwynig methyl isoseianid o ffatri Union Carbide yn ystod noson y 3 Rhagfyr 1984. Lladdwyd miloedd yn y ddinas a'r cyffiniau, ac mae miloedd eraill yn parhau i ddioddef yr effeithiau dros ugain mlynedd yn ddiweddarach.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Shankar Dayal Sharma (1918-1999), Arlywydd India
- Jaya Bachchan, actores (g. 1948)
- Kaif Bhopali, bardd
