Ci Mynydd Bern
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Berner Sennenhund)
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | Swiss mountain dogs |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci mynydd sy'n tarddu o'r Swistir yw Ci Mynydd Bern (Almaeneg: Berner Sennenhund). Cafodd ei gyflwyno i'r Swistir mwy na 2000 o flynyddoedd yn ôl gan y Rhufeiniaid. Bu'n gi gwaith poblogaidd i dynnu certi ac i yrru gwartheg.[1]
Mae ganddo frest lydan, clustiau siap-V, a chôt o flew hir, sidanaidd, du gyda smotiau rhytgoch ar y frest, y coesau blaen a'r llygaid a gwyn ar y frest, y trwyn, blaen y gynffon, a weithiau'r traed. Mae ganddo daldra o 63.5 i 70 cm (25 i 27.5 modfedd) ac yn pwyso tua 40 kg (88 o bwysau)).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Bernese mountain dog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.