Bellovaci
Gwedd
| Enghraifft o: | grwp ethnig hanesyddol |
|---|---|
| Math | Y Galiaid |
| Rhan o | Belgae |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/030m0h |

Llwyth Belgaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd y Bellovaci. Eu prifddinas yn y cyfnod Rhufeinig oedd Caesaromagus, Beauvais yn Ffrainc heddiw. Roedd eu tiriogaethau yn ymestyn ar hyd yr arfordir o Beauvais ar hyd yr arfordir hyd Afon Oise.
Bu ymladd rhwng y Bellovaci a Iŵl Cesar yn ystod ymgyrchoedd Cesar yng Ngâl. Roedd y Bellovaci yn ceisio meddiannu tiriogaethau'r Suessiones, ac arweiniodd Cesar fyddin sylweddol yn eu herbyn, yn cynnwys pedair lleng. Gorchfygwyd y Bellovaci, a lladdwyd eu cadfridog, Correus.