Basse-Terre
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 9,417 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Marie-Luce Penchard |
| Cylchfa amser | UTC−04:00 |
| Gefeilldref/i | Puducherry |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Guadeloupe |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5.78 km² |
| Gerllaw | Galion |
| Yn ffinio gyda | Baillif, Gourbeyre, Saint-Claude |
| Cyfesurynnau | 15.9969°N 61.7328°W |
| Cod post | 97100 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Basse-Terre |
| Pennaeth y Llywodraeth | Marie-Luce Penchard |
![]() | |
- Am brifddinas Saint Kitts a Nevis gweler Basseterre. Gweler hefyd Ynys Basse-Terre.
Prifddinas Guadeloupe, rhanbarth tramor Ffrengig sy'n un o départements Ffrainc yn y Caribî, yw Basse-Terre. Lleolir Basse-Terre ar arfordir de-orllewinol Ynys Basse-Terre, hanner gorllewinol Guadeloupe.
Er mai hi yw'r brifddinas, Basse-Terre yw'r ail ddinas fwyaf yn Guadeloupe ar ôl Pointe-à-Pitre. Mae gan ardal ddinesig Basse-Terre boblogaeth o 44,864 (1999) gyda 12,400 ohonynt yn byw yn ninas Basse-Terre ei hun.
Sefydlwyd y ddinas gan y Ffrancod yn 1643. Ceir sawl adeilad o'r cyfnod trefedigaethol ynddi, yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Saint-Pierre-et-Saint-Paul a godwyd yn y 19eg ganrif.
