Basenji
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi ![]() |
---|---|
Màs | 11 cilogram, 9.5 cilogram ![]() |
Gwlad | Canolbarth Affrica ![]() |
![]() |

Helgi sy'n tarddu o Ganolbarth Affrica yw'r Basenji.[1] Defnyddir fel cyfeirgi, adargi, ac i yrru ysglyfaeth i mewn i rwydi.[2]
Mae ganddo flew byr a sidanaidd o liw browngoch, du, neu felyn a du; gwyn yw'r traed, y frest, a blaen y gynffon. Mae'n frid gosgeiddig a chanddo olwg fywiog i'w wyneb gyda thalcen crychlyd, clustiau i fyny, a chynffon gyrliog. Mae ganddo daldra o 41 i 43 cm (16 i 17 modfedd), ac yn pwyso 10 i 11 kg (22 i 24 o bwysau). Nid yw'r Basenji yn medru cyfarth, ond mae'n gallu gwneud synau eraill.[2]
Y Basenji yw'r unig frîd o gi sydd ganddo gylchred atgenhedlu blynyddol.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [basenji].
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) basenji. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.