Barnwr Rhanbarth

Oddi ar Wicipedia

Ceir dau fath gwahanol o Farnwr Rhanbarth. Mae'r math cyntaf yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwaith sy'n digwydd mewn Llysoedd Sirol a hefyd am wrando achosion llai yn yr Uchel Lys.

Datblygiad diweddarach yw defnyddio'r teitl yn yr ail enghraifft; mae'r Barnwyr Rhanbarth hyn, a elwid yn ynadon cyflog gynt, ynghyd â'u Dirprwyon, yn eistedd mewn Llysoedd Ynadon. Maent yn gyfreithwyr hyfforddedig ac, fel arfer, byddant yn gwrando'r achosion mwyaf difrifol yn y Llysoedd Ynadon a hefyd yn ysgwyddo rhyw gymaint o waith sifil megis achosion teulu.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.