Bar Statws (gêm fideo)

Oddi ar Wicipedia
Delwedd:Hud on the cat.jpg, PZL TS-11F Iskra (HUD).jpg, F-18 HUD gun symbology.jpeg, E60hud.JPG
Data cyffredinol
Mathcomputer monitor, avionics, aircraft component Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bar Statws neu Declyn Arddangos Pen Sgrin, (Saesneg head-up display / HUD) yw'r dull y mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno'n weledol i'r chwaraewr gêm fideo fel rhan o ryngwyneb defnyddiwr y gêm.[1]

Er bod y wybodaeth a ddangosir ar HUD yn dibynnu'n fawr ar y gêm, mae llawer o nodweddion yn rhai mae chwaraewyr yn eu hadnabod ar draws nifer o gemau. Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar y sgrin sefydlog fel eu bod yn aros yn weladwy yn ystod gydol y gêm. Mae'r nodweddion cyffredin yn cynnwys:

  • Iechyd / bywydau
  • Amser sydd ar ôl i gyflawni tasg
  • Arfau a nifer o ergydion sydd gan yr arf
  • Galluoedd arbennig sydd dim ond yn para dros gyfnod
  • Bwydlenni - Bwydlenni i adael, newid opsiynau, dileu ffeiliau, newid gosodiadau, ac ati.
  • Dilyniant gêm - sgôr, arian, lap, neu lefel bresennol y chwaraewr.
  • Map bach - map bach o'r ardal a all weithredu fel radar, sy'n dangos y tir, cynghreiriaid a / neu elynion, lleoliadau fel tai diogel a siopau, strydoedd, ac ati.
  • Cyflymder / Tachomedr - a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o gemau sy'n cynnwys cerbydau y gellir eu gyrru.
  • Gwybodaeth sy'n sensitif i'r cyd-destun - a ddangosir yn unig gan ei bod yn bwysig, fel negeseuon tiwtorial, galluoedd unigryw unwaith ac am byth, ac isdeitlau lleferydd.
  • Stealthomedr – sy'n dangos os yw chwaraewr yn rhy bell neu'n rhy agos i darged
  • Cwmpawd tasgau – sy'n dangos pa dasgau sydd ar gael ac ymhle i'w cyrchu.
  • Perygl - pa mor agos yw elynion, pa mor frwd yw'r heddlu i ddal troseddwr ac ati

A nodweddion cyffelyb.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. HUD - Heads Up Display adalwyd 27 Gorffennaf 2018