Awenydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Awenyddion)
Jump to navigation Jump to search

Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, term am feirdd ysbrydoledig oedd awenydd. Daw o'r gair awen ("ysbrydoliaeth [dwyfol neu farddonol]") a'i ystyr lythrennol yw "un a feddianir gan yr Awen".

Cyfeiria Gerallt Gymro at yr awenyddion ar ddiwedd y 12g yn ei lyfr Descriptio Kambriae ("Y Disgrifiad o Gymru"). Roeddynt yn ddosbarth unigryw yn y gymdeithas, meddai:

Pan ymgynghorir â hwy ynghylch rhyw bwnc amwys, gan ruo ar unwaith cipir hwy oddi arnynt eu hunain, fel petai, gan ysbrydoliaeth, a gwneir hwynt yn wŷr wedi eu meddiannu gan ryw bŵer. Ac er hynny, ni roddant ateb i'r cwestiwn yn uniongyrchol: ond ar ôl llawer o eiriau amwys, ymhlith amrywiol frawddegau o ffiloreg a gwegi yn hytrach nag o synnwyr, ond i gyd, er hynny, yn goeth a chabol, a lifa ohonynt, o'r diwedd caiff y sawl a sylwo'n graff ar yr ateb, yr hyn a geisia wedi ei esbonio. Ac felly o'r diwedd, dihunir hwy gan eraill o'r perlewyg hwn, fel petai o gwsg trwm, a gorfodir iddynt, trwy ryw gymaint o rym, ddychwelyd atynt eu hunain.[1]

Ond roedd Beirdd y Tywysogion yn arfer galw eu hunain yn awenyddion hefyd, ac efallai nad oedd y term yn gyfyngedig i ddosbarth y brudwyr neu ddaroganwyr hyn yn unig. Disgrifia'r bardd Iorwerth Fychan ei hun yn canu'n orffwyll "fel awenydd", er enghraifft.

Mae rhai yn dadlau fod yr awenyddion hyn, fel dosbarth, yn ddisgynyddion i'r vates Celtaidd, a gysylltir â rhagweld y dyfodol a barddoniaeth. Er bod Gerallt, sy'n dyst unllygeidiog braidd, yn rhoi'r pwyslais ar berlewyg ac ystumiau dramatig yr awenyddion, dywed er hynny fod eu geiriau'n "goeth a chabol", sy'n awgrymu mae darogan ar gân a lefarent.

Cyfeirir at y broffwydoles neu ddaroganwraig Tangwystl (fl. tua chwarter olaf y 11g) yn Hanes Gruffudd ap Cynan. Roedd hi'n perthyn i dylwyth Gruffudd ap Cynan ac yn enwog am ddarogan ei ddyfodol, er nad oes sicrwydd y gellir ei galw yn "awenydd" fel y cyfryw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Thomas Jones (cyf.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Chwaer Bosco, 'Awen y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd', yn Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (gol.), Beirdd a Thywysogion (Caerdydd, 1996).