Audi R8

Oddi ar Wicipedia

Math o sbortscar[1] gan y gwneuthurwr ceir Audi yd'r Audi R8 sydd a'i injan wedi'i leoli rhwng y ddwy echel - yng nghanol y car. Mae'n perthyn i'r grŵp quattro ac mae'n yrriant pedair olwyn. Mae'n defnyddio petrol i'w yrru.

Fe'i cynhyrchwyd yn wreiddiol gan quattro GmbH sy'n rhan o Audi AG yn 2006; yn ei dro, mae Audi ydy rhan o'r grŵp Volkswagen AG. Sefydlwyd cynllyn y car ar gar arall, sef y Lamborghini Gallardo; Volkswagen AG yw perchennog Lamborghini hefyd.[2] O ran ei wneuthuriad, defnyddir yr Audi Space Frame, ac mae'n gerbyd ungragen aliminiwm er mwyn cadw'r pwysau mor isel â phosibl. Fe'i gwneir mewn ffatri bwrpasol yn Neckarsulm, yr Almaen.[3]

Yn 2005, cyhoeddodd Audi y byddid yn defnyddio'r enw R8 ymhen dwy flynedd, ar gar newydd ac y byddai wedi ei sefydlu ar gar cysyniadol (ei ragflaenydd) sef yr Audi Le Mans quattro, a ddaeth i olau dydd am y tro cyntaf yn Sioe Foduron Genefa yn 2003. Fe'i lansiwyd yn ffurfiol yn Sioe Gerbydau Paris ar 30 Medi 2006 a disgrifiwyd y car ar unwaith gan y gyrrwr Fformiwla Un Jacky Ickx fel: "the best handling road car today".[4][5][6]

Dyma'r car cyntaf i'w gynhyrchu gyda lampiau golau LED llawn.[7]

Datblygwyd sawl fersiwn o'r A8 dros y blynyddoedd (2003-2016):
Audi Le Mans Quattro
2003
Audi Le Mans Quattro
2003 
R8 V8 Coupé
2007–2012
R8 V8 Coupé
2007–2012 
R8 V10 Coupé
2009–2012
R8 V10 Coupé
2009–2012 
R8 TDI Le Mans
2008
R8 TDI Le Mans
2008 
R8 GT Spyder
2011
R8 GT Spyder
2011 
R8 LMS ultra
2012–2015
R8 LMS ultra
2012–2015 

Gwerthiant[golygu | golygu cod]

70 o weithwyr sydd yn ffatri quattro GmbH, gyda dros 5,000 o ddarnau i'w gosod gyda llaw. Datblygwyd y ffatri ar gost o €28 miliwn, ac maent yn creu rhwng 8 a 15 car y dydd.[3] Archwilir y car gan 95 laser, a hynny mewn 5 eiliad i sicrhau fod pob darn wedi'i osod i gywirdeb o 0.1 milimetr o'r cynllun cywir.[8]

Blwyddyn 2005[9] 2006[9] 2007[10] 2008 2009[11] 2010[12][13] 2011>[14] 2012[14] 2013[14] 2014[14] Cyfanswm
Uned 6 164 4,125 5,656 2,101 3,485 3,551 2,241 2,500 2,216 26,045

Ffocws ar un model: y V10 Plus[golygu | golygu cod]

Daeth y V10 plus i olau dydd am y tro cyntaf yn 2016 ac roedd yn costio £134,520 gydag injan o faint 5204cc (V10, sy'n rhoi iddo ei enw). O ran cryfder, roedd yn 602bhp, yn pwyso 413 pwys ac yn gwneud 23.0 myg a 287g/km. O ran cyflymder, roedd yn cyrraedd 0 - 60 mya mewn 3.2 eiliad a gellid gwneud uchafswm o 205mya.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi; adalwyd 2 Medi 2016.]
  2. CarAndDriver.com 2008 Audi R8 – First Drive Review[dolen marw]
  3. 3.0 3.1 "The Audi R8 Coupé and Spyder – Pricing and Specification guide – valid from January 2010" (PDF). Audi UK. January 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-12-28. Cyrchwyd 12 Chwefror 2010.
  4. Gerd Kebschull (3 December 2006). "Audi R8: Ein Supersportler entsteht - Teil I". auto motor und sport.
  5. "First Spy Photos of Pre-Production R8 Sportscar".
  6. fourtitude.com/news/Audi_News_1/pilot-project-in-audi-r8-assembly-in-neckarsulm-silverliners-set-the-pace/
  7. "THE FULL-LED TECHNOLOGY FOR AUTOMOTIVE LIGHTING". magnetimarelli.com. Cyrchwyd 2014-03-22.
  8. "Audi UK R8 microsite". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-11. Cyrchwyd 2016-09-02.
  9. 9.0 9.1 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-07-17. Cyrchwyd 2016-09-02.
  10. "Volkswagen AG Annual Report 2008" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-10-01. Cyrchwyd 2011-03-13.
  11. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-07-17. Cyrchwyd 2016-09-02.
  12. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-04-23. Cyrchwyd 2016-09-02.
  13. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-05-26. Cyrchwyd 2016-09-02.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 "• Automobile production of Audi by model 2014 - Statistic". Statista. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2015.