Asuba
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Asuba (Hebraeg עזובה) yn enw ar ddwy fenyw yn yr Hen Destament. Ystyr yr enw yw diffaith, neu anghyfannedd.[1]
Deiliad cyntaf yr enw oedd gwraig gyntaf Caleb mab Hesron. Daeth yn fam i dri mab Caleb, Jeser, Sobab, ac Ardon. Bu farw Asuba cyn ei gŵr ac fe ail briododd ag Effrath.[2]
Asuba, merch Silhi oedd ail ddeiliad yr enw. Roedd hi'n wraig i Asa trydydd brenin Jwda ac yn fam i'w olynydd i'r orsedd Jehosaffat.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net