Asid ffolig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Asid Ffolig)
Jump to navigation Jump to search
Yn yr Unol Daleithiau, mae'r cwmniau bwyd yn ychwanegu asid ffolig mewn grawnfwydydd.

Geiriau eraill ar asid ffolig yw: Fitamin B9, fitamin M neu Ffolasin. Mae'r teulu yma'n hydoddi mewn dŵr ac yn digwydd yn naturiol mewn rhai bwydydd neu dabledi. Daw tarddiad y gair o'r gair Lladin am ddeilen (folium) gan fod dail gwyrdd yn llawn ohono.

Mae llawer o asid ffolig yn y bwydydd canlynol: sbigoglys, letis, ffa wedi'u sychu, grawnfwydydd, hadau blodau haul ayb. Mae iau (afu) hefyd yn cynnwys llawer ohono, yn ogystal â burum y pobydd, Marmite a Vegemite. Mae creision ŷd a'i debyg yn cynnwys rhwng 25% a 100% o'r hyn sydd ei angen.

Ei hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1933, darganfu Lucy Willis asid ffolig, pan oedd yn ymchwilio i fewn i anghenion merched beichiog, a cheisio atal anemia. Burum y pobydd ddefnyddiodd hi, gan wedyn, sylweddoli mai'r asid ffolig a oedd yn gwneud y gwaith. Llwyddodd i dynnu'r asid allan o ddail sbigoglys yn 1941. Crewyd asid ffolig artiffisial yn 1946 gan Yellapragada Subbarao.