Ecosystem: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ka:ეკოსისტემა |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: pap:Ekosystema Natural |
||
Llinell 55: | Llinell 55: | ||
[[no:Økosystem]] |
[[no:Økosystem]] |
||
[[oc:Ecosistèma]] |
[[oc:Ecosistèma]] |
||
[[pap:Ekosystema Natural]] |
|||
[[pl:Ekosystem]] |
[[pl:Ekosystem]] |
||
[[pt:Ecossistema]] |
[[pt:Ecossistema]] |
Fersiwn yn ôl 09:02, 16 Ebrill 2011
Ecosystem yw cymdeithas o organebau mewn ecoleg sy'n cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreaduriaid byw eraill yn ogystal a'u hamgylchedd. Fel arfer, maent yn ffurfio cadwyni a gweoedd bwydydd.
Arthur Tansley oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term ecosystem mewn traethawd ym 1935, ond roedd Roy Clapham yn defnyddio'r un term ym 1930 i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd.
Peth deinamig a chymhleth yw ecosystem ac mae egni a defnyddiau'n llifo ynddi. Mae ecosystemau mawr - er enghraifft coedwig gyfan - a bach - er enghraifft pwll. Fel arfer, mae rhwystrau fel anialwch, mynyddoedd neu foroedd rhwng ecosystemau, neu mae ecosystem yn system annibynnol, fel pwll neu afon.
Mewn ecosystem, mae cydbwysedd rhwng y creaduriaid, ond mae'n bosib fod amgylchedd yn newid neu greadur newydd yn dod i'r ecosystem yn dymchwel popeth ac o ganlyniad mae'n bosib fod llawer o greaduriaid neu hyd yn oed rhywogaethau yn marw.