Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Tudalen newydd: Tudweiliog: pentref bychain ar arfordir ogleddol Pen Llŷn gyda'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gymraeg-gyntaf eu hiaith. Mae amaethyddieth yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned g...
 
B Edit wedi'i symud i Tudweiliog
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:58, 17 Ionawr 2007

Tudweiliog: pentref bychain ar arfordir ogleddol Pen Llŷn gyda'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gymraeg-gyntaf eu hiaith. Mae amaethyddieth yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda thwristiaeth yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, eglwys a chapel ac ysgol gynradd (presennol) sydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliuog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a Phwllheli, sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn Sir Gwynedd, ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur (cromlech) ar fynydd Cefnamwlch, olion cymuned oes-efydd ar gopa fynydd Garn Fadryn,traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hannesyddol Porth Ysgaden, Phorth Colmon yn Llangwnnadl, a Phorth Gwylan sydd dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.