Agricola: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|Cerflun o '''Agricola''' a godwyd yn [[Caerfaddon|Nghaerfaddon yn 1894]] Milwr a gwladweinydd o [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Ru...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Statue_of_Agricola_at_Bath.jpg|200px|bawd|Cerflun o '''Agricola''' a godwyd yn [[Caerfaddon|Nghaerfaddon]] yn [[1894]]]]
[[Delwedd:Statue_of_Agricola_at_Bath.jpg|130px|bawd|Cerflun o '''Agricola''' a godwyd yn [[Caerfaddon|Nghaerfaddon]] yn [[1894]]]]
Milwr a gwladweinydd o [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeiniad]] oedd '''Gnaeus Julius Agricola''' neu '''Agricola''' ([[40]] - [[93]] O.C.), a aned yn nhref [[Forum Julii]] yn nhalaith [[Gallia Narbonensis]] ([[Fréjus]] heddiw, ym [[Profens|Mhrofens]], de [[Ffrainc]]).
Milwr a gwladweinydd o [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeiniad]] oedd '''Gnaeus Julius Agricola''' neu '''Agricola''' ([[40]] - [[93]] O.C.), a aned yn nhref [[Forum Julii]] yn nhalaith [[Gallia Narbonensis]] ([[Fréjus]] heddiw, ym [[Profens|Mhrofens]], de [[Ffrainc]]).



Fersiwn yn ôl 19:39, 15 Ionawr 2007

Cerflun o Agricola a godwyd yn Nghaerfaddon yn 1894

Milwr a gwladweinydd o Rufeiniad oedd Gnaeus Julius Agricola neu Agricola (40 - 93 O.C.), a aned yn nhref Forum Julii yn nhalaith Gallia Narbonensis (Fréjus heddiw, ym Mhrofens, de Ffrainc).

Gwasanaethodd ym Mhrydain, Asia ac Aquitania gan ennill bri iddo'i hun. Cafodd ei ethol yn gonswl yn 77 O.C. a dychwelodd i Brydain fel llywodraethwr ar y dalaith newydd yn 77 neu 78. Agricola oedd yn bennaf cyfrifol am osod awdurdod Rhufain ar y llwythau Celtaidd ym Mhrydain a oedd yn dal i wrthsefyll y trefedigaethwyr Rhufeinig. Yn 80 ac 81 ymestynnodd reolaeth Rhufain i dde'r Alban a gorchfygodd byddin Calcagus ym Mrwydr Mons Graupius. Ar ôl y fuddugoliaeth honno hwyliodd â'i lynges fechan oddi amgylch arfordir gogleddol Prydain, gan brofi am y tro cyntaf ei bod yn ynys. Ond enynnodd llwyddiant Agricola genfigen Domitianus a chafodd ei alw yn ôl i Rufain yn 84.

Ysgrifenodd ei fab-yng-nghyfraith Tacitus fywgraffiad canmoliaethus ar Agricola, y De vita Iulii Agricolae (neu'r Agricola). Dyma brif ffynhonnell ein gwybodaeth amdano, ynghyd â'r Annales (llyfr arall gan Tacitus).

Llyfryddiaeth

  • H. Mattingly (cyf.), Tacitus: On Britain and Germany (Llundain, 1946 ac wedyn). Ceir yr Agricola yn rhan gyntaf y llyfr, a bywgraffiad.