Brwydr Pharsalus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Holder (sgwrs | cyfraniadau) B corr |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Categori:Brwydrau Gweriniaeth Rhufain|Pharsalus]] |
[[Categori:Brwydrau Gweriniaeth Rhufain|Pharsalus]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:49 CC]] |
Fersiwn yn ôl 08:24, 3 Hydref 2019
Brwydr dyngedfennol y rhyfel cartref Rhufeinig rhwng Iŵl Cesar a Gnaeus Pompeius Magnus oedd Brwydr Pharsalus, a ymladdwyd yn 48 CC gerllaw Pharsalus (Farsala heddiw) yng nghanolbarth Gwlad Groeg.
Yn 49 CC, croesodd Cesar a'i fyddin Afon Rubicon, y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau rhyfel cartref yn Rhufain. Cymerodd Pompeius blaid y Senedd, yn erbyn Cesar.
Enciliodd Pompeius i Brundisium cyn croesi i Wlad Groeg, a'r rhan fwyaf o Senedd Rhufain gydag ef. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym Mrwydr Pharsalus, a ffôdd Pompeius i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin Ptolemy XIII. Gadawodd hyn Cesar yn feistr ar Rufain.