Kailao: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
==Geiriau'r Sipi Tau Cyfredol== |
==Geiriau'r Sipi Tau Cyfredol== |
||
Dyma'r geiriau i'r Sipi Tau cyfredol, ers 2011.<ref>http://matangitonga.to/2011/08/19/sipi-tau-e-ikale-tahi</ref> |
Dyma'r geiriau i'r Sipi Tau cyfredol, ers 2011.<ref>http://matangitonga.to/2011/08/19/sipi-tau-e-ikale-tahi</ref> |
||
{| |
|||
| width="50%" | |
|||
:'''Sipi Tau a'e 'Ikale Tahi''' |
:'''Sipi Tau a'e 'Ikale Tahi''' |
||
Llinell 46: | Llinell 48: | ||
:''Ei e!'' (Arweinydd) |
:''Ei e!'' (Arweinydd) |
||
:''TONGA!'' |
:''TONGA!'' |
||
| width="50%" | |
|||
===Cyfieithiad Gymraeg=== |
===Cyfieithiad Gymraeg=== |
||
:Arweinydd:Paratowch am y frwydr! |
:Arweinydd:Paratowch am y frwydr! |
||
Llinell 61: | Llinell 63: | ||
:Arweinydd:Ai! |
:Arweinydd:Ai! |
||
:Ai! |
:Ai! |
||
:Byddaf yn medi'r sgarmes a'r blaenwr |
:Byddaf yn medi'r sgarmes a'r blaenwr rhydd |
||
:A malu unrhyw galonnau tanbaid y |
:A malu unrhyw galonnau tanbaid y gwyddoch |
||
:Arweinydd:Cratsh! |
:Arweinydd:Cratsh! |
||
Llinell 72: | Llinell 74: | ||
:Arweinydd:Ai, ai! |
:Arweinydd:Ai, ai! |
||
: |
:TONGA! |
||
|} |
|||
==Gweler Hefyd== |
==Gweler Hefyd== |
Fersiwn yn ôl 11:55, 15 Medi 2019
Dawns ryfel Tonga o ynysoedd cyfagos Wallis a Futuna yw'r kailao.[1] Math o kailao yw'r Sipi Tau sef y ddawns ryfel a berfformir cyn gemau Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Tonga. Bydd nifer o bobl yn fwy cyfarwydd gyda'r trefm "Sipi Tau".[2]
Hanes
Mae'r kailao fel arfer yn cael ei berfformio mewn seremonïau cyhoeddus a phreifat. Mae dynion, sy'n gwisgo ffyn steil o'r enw kailao pate, yn dawnsio mewn arddull ffyrnig sy'n efelychu ymladd, ynghyd â drym neu offerynnau taro metal sy'n gosod y tempo. Yn wahanol i ddawnsfeydd Tongaidd eraill, perfformir kailao heb ganu. Arweinydd y ddawns sy'n pennu'r dilyniant o symudiadau i'w perfformio gan y grŵp, sy'n rhoi enw'r dilyniant a phryd i ddechrau. Mae'r ddawns yn dangos disgyblaeth y dawnswyr, yr ufudd-dod a'u medr gyda'u harf.
Yn yr un modd, gelwir dawns debyg o Rotuma, sy'n deillio o ddawns Wallis, yn ka'loa.
Sipi Tau
Y Sipi tau yw'r enw ar y ddawns a berfformir gan dîm rygbi'r undeb Tonga a thîm rygbi'r gynghrair cyn pob gêm,[3] ac mae'n fath o kailao. Ysgrifennwyd y gân gan y Brenin Taufa'ahau Tupou IV ym 1994, ond mae ei tharddiad yn hŷn.
Doedd dawns ryfel ddim yn rhan o draddodiad Tonga cyn 19g. Mewn gwirionedd, ystyriwyd bod siarad yn arwydd o wendid yn ystod brwydr. Fodd bynnag, yn 19g, cyflwynwyd dawns ryfel yn Tonga o ynysoedd cyfagos Wallis a Futuna, a fabwysiadwyd yn gyflym gan Tonga. Perfformiwyd gwahanol fathau o sipi tau gan dimau Tonga ond nid yw'n hysbys pryd y cawsant eu defnyddio am y tro cyntaf wrth chwarae rygbi. Cyfansoddwyd y fersiwn ddiweddaraf er anrhydedd i daith lwyddiannus yn Seland Newydd ym 1994.[4].
Traddodiad y Môr Tawel
Mae'r Cibi yn rhan o draddodiad o ddawnsiau rhyfel sydd wedi eu gwreiddio yn niwylliant gynhenid ynysoedd y Môr Tawel, gyda'r enwocaf i dramorwyr yn ffurf dawns yr haka gan bobl Maori ond bellach hefyd, a fabwysiadir gan holl drigolion Seland Newydd. Fel yrhaka, mae'r cibi wedi dod i amlygrwydd byd-eang oherwydd ei pherfformiad cyn gemau rygbi'r undeb a champau eraill. Ceir dawnsfeydd tebyg gan Samoa (Siva Tau) a'r Cibi o ynysoedd Ffiji.
Geiriau'r Sipi Tau Cyfredol
Dyma'r geiriau i'r Sipi Tau cyfredol, ers 2011.[5]
|
Cyfieithiad Gymraeg
|
Gweler Hefyd
Dolenni
- "What is Sipi Tau?"
- Sipi Tau (Kailao) yn erbyn Haka Seland Newydd, CRB 2015
- Never mind the haka - here’s the Bole, The Telegraph, 2015
- "Not just the haka"