Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: stq:Assimilation (Phonetik) |
B robot yn ychwanegu: pt:Assimilação |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
[[nl:Assimilatie (taalkunde)]] |
[[nl:Assimilatie (taalkunde)]] |
||
[[pl:Asymilacja fonetyczna]] |
[[pl:Asymilacja fonetyczna]] |
||
[[pt:Assimilação]] |
|||
[[rm:Assimilaziun linguistica]] |
[[rm:Assimilaziun linguistica]] |
||
[[ru:Ассимиляция (лингвистика)]] |
[[ru:Ассимиляция (лингвистика)]] |
Fersiwn yn ôl 18:35, 25 Mai 2010
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw cymathiad.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn gymathiad blaen. Enghraifft o gymathiad blaen yn y Gymraeg yw simme a glywir ar lafar yn y gorllewin am simne. Yma mae'r m wedi troi'r n sy'n ei dilyn yn m hefyd.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn gymathiad ôl. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw tac-cu, a glywir yn aml am tad-cu yn y de. Yma mae'r c yn y cu wedi troi'r d ar ddiwedd tad yn c; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae campunt, a glywir yn gyffredin ar lafar am canpunt, yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r p yn punt wedi dylanwadu ar y llythyren n flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn m. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw bwgwth am bygwth.