Eid ul-Fitr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Eid ul-Fitr''' (Arabeg: عيد الفطر), neu '''Eid el-Fitr''' (yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl [[Islam|Islamaidd]] a ddethlir gan [[Mwslim|Fwslemiaid]] ar ddiwedd mis sanctaidd [[Ramadan]]. |
'''Eid ul-Fitr''' (Arabeg: عيد الفطر), neu '''Eid el-Fitr''' (yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]]), yw'r ŵyl [[Islam|Islamaidd]] a ddethlir gan [[Mwslim|Fwslemiaid]] ar ddiwedd mis sanctaidd [[Ramadan]]. |
||
Dethlir Eid ar ddyfodiad y [[lleuad]] newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis ''Shawaal'', degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion. |
Dethlir Eid ar ddyfodiad y [[lleuad]] newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis ''Shawaal'', degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion. |
Fersiwn yn ôl 14:33, 17 Hydref 2006
Eid ul-Fitr (Arabeg: عيد الفطر), neu Eid el-Fitr (yng Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl Islamaidd a ddethlir gan Fwslemiaid ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.
Dethlir Eid ar ddyfodiad y lleuad newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis Shawaal, degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan bwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddau teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.
Ystyr Eid ul-Fitr yn llythrennol yw "Diwedd yr Ymprydio" (eid "diwedd", ul- "yr", fitr "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r fosg yn y bore i gymryd rhan yn Salat ul-Eid (gweddïau Eid). Mae pawb yn dymuno Eid Mubarak ("bendith Eid") i'w gilydd.
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir un un o bump colofn y ffydd Islamaidd.
Mae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.
Uchafbwynt Eid yw'r glwedda mawr sy'n parhau trwy'r nos. Mae teuluoedd ar wasgar yn ymgynnull ac mae pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gymryd rhan mewn gwleddau traddodiadol gyda phrydau arbennig a digonedd o ddiodydd, cacenau, pwdins a melysion. Mae pawb yn rhoi anrhegion bach a melysion i blant, yn y cartref ac yn y stryd. Mae teuluoedd sy'n medru ffordio hynny yn lladd dafad neu fuwch ar gyfer yr ŵyl, mewn coffiadwriaeth o aberth Ibrahim (Abraham); rhoddir y cig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i'r tlawd a'r anghenus.
Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddau teuluol.