Viroconium: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: nl:Viroconium
Llinell 14: Llinell 14:
[[fr:Viroconium]]
[[fr:Viroconium]]
[[it:Viroconium]]
[[it:Viroconium]]
[[nl:Viroconium]]
[[pt:Viroconium]]
[[pt:Viroconium]]

Fersiwn yn ôl 14:23, 22 Mai 2009

Adfeilion Viroconium ger Wroxeter

Dinas Rufeinig tua 8 km (5 milltir) i'r dwyrain o'r Amwythig oedd Viroconium, neu yn llawn Viroconium Cornoviorum. Saif pentref Wroxeter yn un gornel o'r hen dref.

Sefydlwyd Viroconium tua 58 OC fel caer i'r lleng Legio XIV Gemina yn ystod eu hymosodiad ar Gymru. Yn ddiweddarach daeth y Legio XX Valeria Victrix yno yn eu lle, hyd nes i'r fyddin adael y safle yn 88. Daeth yn brif dref llwyth y Cornovii, ac erbyn 130 roedd yn gorchuddio mwy na 173 acer (70 ha), gyda fforwm a baddonau cyhoeddus. Ar ei hanterth, roedd gan y ddinas boblogaeth o dros 6,000, y bedwaredd dinas ym Mhrydain o ran maint.