Brwydr Passchendaele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cat |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image:Chateau Wood Ypres 1917.jpg|bawd|220px|Milwyr Awstralaidd yn ystod Brwydr Passchendaele, 29 Hydref, 1917]] |
[[Image:Chateau Wood Ypres 1917.jpg|bawd|220px|Milwyr Awstralaidd yn ystod Brwydr Passchendaele, 29 Hydref, 1917]] |
||
Un o frwydrau y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] yn [[1917]] oedd '''Brwydr Passchendaele'''; defnyddir yr enw '''Trydydd Brwydr Ypres''' amdani hefyd. Ymladdwyd y frwydr yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]], rhwng |
Un o frwydrau y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] yn [[1917]] oedd '''Brwydr Passchendaele'''; defnyddir yr enw '''Trydydd Brwydr Ypres''' amdani hefyd. Ymladdwyd y frwydr yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]], rhwng byddin [[yr Almaen]] dan [[Max von Gallwitz]] ac [[Erich Ludendorff]], a lluoedd y cyngheiriaid, yn cynnwys milwyr o Brydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan [[Douglas Haig]] a [[Hubert Gough]]. |
||
Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar [[31 Gorffennaf]] [[1917]]. Roedd yr ymgyrch wedi ei chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog, [[David Lloyd George]]. Y bwriad oedd torri trwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd [[Oostende]] a [[Zeebrugge]], oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen. |

Fersiwn yn ôl 07:19, 27 Chwefror 2009
Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917 oedd Brwydr Passchendaele; defnyddir yr enw Trydydd Brwydr Ypres amdani hefyd. Ymladdwyd y frwydr yng Ngwlad Belg, rhwng byddin yr Almaen dan Max von Gallwitz ac Erich Ludendorff, a lluoedd y cyngheiriaid, yn cynnwys milwyr o Brydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan Douglas Haig a Hubert Gough.
Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar 31 Gorffennaf 1917. Roedd yr ymgyrch wedi ei chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog, David Lloyd George. Y bwriad oedd torri trwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd Oostende a Zeebrugge, oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.
Parhaodd y frwydr hyd 6 Tachwedd, 1917, pan gipiwyd Passendale, oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglyn a cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cyngheiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal. Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf.