Wakefield: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Dinas yng ngogledd Lloegr sy'n ganolfan weinyddol Swydd Gorllewin Efrog yw '''Wakefield'''. Mae'n gorwedd ar lan Afon Calder. Bu'n ganolfan ddiwydiannol mawr yn y gorffen... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 23:58, 27 Ionawr 2009
Dinas yng ngogledd Lloegr sy'n ganolfan weinyddol Swydd Gorllewin Efrog yw Wakefield. Mae'n gorwedd ar lan Afon Calder. Bu'n ganolfan ddiwydiannol mawr yn y gorffennol, yn enwedig fel canolfan ffatrioedd gwlân a'r diwydiant glo.
Yma ymladdwyd Brwydr Wakefield, rhan o Ryfeloedd y Rhosynnau, yn y flwyddyn 1460. Gorchfygwyd byddin Rhisiart, Dug Efrog, gan y Lancastriaid a syrthiodd y dug ei hun.