Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwy sy'n berchen? |
|||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
==Sut alla i gysylltu â'r prosiect?== |
==Sut alla i gysylltu â'r prosiect?== |
||
Mae yna sawl ffordd i gysylltu â phobl sy'n gysylltiedig â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r [[Wicipedia:Y Caffi|Caffi]] ac ychwanegwch nodyn yno. Os ydych chi am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch nodyn ar ei dudalen sgwrs; fe fydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosib fod y defnyddiwr wedi cantiatáu i chi anfon e-byst ato; os felly fe fydd cysylltiad i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr. |
|||
Y Sylfaen Wicimedia sydd yn rhedeg Wicipedia. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld â [http://meta.wikimedia.org/ Meta-Wiki], sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd. |
|||
==A ddylwn i gofrestru cyn golygu?== |
==A ddylwn i gofrestru cyn golygu?== |
Fersiwn yn ôl 22:24, 9 Chwefror 2006
Ar y dudalen hon gallwch gael atebion i gwestiynau sy'n cael eu codi'n aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'r dudalen cymorth.
Beth yw Wici?
Mae wici yn gasgliad o dudalennau gwe sydd wedi'u cydgysylltu. Gall unrhywun olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolennau i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.
Beth yw Wicipedia?
Mae Wicipedia yn ymgais i greu gwyddoniadur Cymraeg ar y we sydd ar gael i bawb. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg wreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Gymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth darllenwch Ynglŷn â Wicipedia.
Pwy sy'n berchen ar Wicipedia?
Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw, y Sylfaen Wicimedia. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys y Wiciadur. Mae'r cyllid yn dod o gyrchoedd codi arian blynyddol.
O ran erthyglau'r safle, does dim hawlfraint ganddynt, o leia nid yn y modd arferol. Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU, sydd yn golygu y gall unrhywun gopïo'r deunydd yma, gyda chydnabyddiaeth. Gweler Wicipedia:Hawlfraint am fwy o fanylion.
Sut alla i gysylltu â'r prosiect?
Mae yna sawl ffordd i gysylltu â phobl sy'n gysylltiedig â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r Caffi ac ychwanegwch nodyn yno. Os ydych chi am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch nodyn ar ei dudalen sgwrs; fe fydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosib fod y defnyddiwr wedi cantiatáu i chi anfon e-byst ato; os felly fe fydd cysylltiad i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.
Y Sylfaen Wicimedia sydd yn rhedeg Wicipedia. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld â Meta-Wiki, sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd.