İznik: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Dinas yng ngogledd-orllewin Twrci yw '''İznik'''. Ei hen enw oedd '''Nicea''' (Groeg: Νίκαια). Mae'n enwog fel safle dau o gynghorau cynnar yr eglwys Gri... |
→Pobl enwog: categori dyfnach |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
*[[Hipparchus]] ([[2il ganrif CC]]), seryddwr, mathemategydd a daearyddwr |
*[[Hipparchus]] ([[2il ganrif CC]]), seryddwr, mathemategydd a daearyddwr |
||
[[Categori:Twrci]] |
[[Categori:Dinasoedd Twrci]] |
||
[[ca:Iznik]] |
[[ca:Iznik]] |
Fersiwn yn ôl 19:58, 14 Ebrill 2008
Dinas yng ngogledd-orllewin Twrci yw İznik. Ei hen enw oedd Nicea (Groeg: Νίκαια). Mae'n enwog fel safle dau o gynghorau cynnar yr eglwys Gristnogol, Cyngor Cyntaf Nicea ac Ail Gyngor Nicea, a rhoddodd y ddinas ei henw i Gredo Nicea.
Rhwng 1204 a 1261, Nicea oedd prifddinas Ymerodraeth Nicea, a ffurfiwyd pan ymrannodd yr Ymerodraeth Fysanraidd wedi i ddinas Caergystennin gael ei chipio gan y croesgadwyr yn 1204. Yn 1261 llwyddodd Ymerodraeth Nicea i gipio Caergystennin yn ôl, ac adferwyd yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Saif y ddinas ar ochr ddwyreniniol Llyn İznik, ac fe'i hamgylchynir gan furiau 10 m o uchder, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae'r boblogaeth tua 15,000.
Pobl enwog
- Hipparchus (2il ganrif CC), seryddwr, mathemategydd a daearyddwr