Cyfansoddiad Ewropeaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Roedd y '''Cyfansoddiad Ewropeaidd''' (hefyd '''[http://www.fco.gov.uk/Files/kfile/EU%20Constitutional%20Treaty_Welsh.pdf Cytuniad sy'n sefydlu Cyfansoddiad i Ewrop]''') yn gytundeb ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:57, 28 Medi 2007

Roedd y Cyfansoddiad Ewropeaidd (hefyd Cytuniad sy'n sefydlu Cyfansoddiad i Ewrop) yn gytundeb rhyngwladol heb ei weithredu a fwriadwyd i greu cyfansoddiad ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Fe'i llofnodwyd yn 2004 gan gynrychiolwyr aelod-wladwriaethau'r Undeb, ond roedd rhaid iddo gael ei gadarnhau gan yr aelod-wladwriaethau i gyd; fe'i gwrthodwyd gan ddwy wlad mewn refferenda. Prif amcanion y cytundeb oedd: disodli'r set orymylol o gytundebau presennol sydd yn llunio cyfansoddiad anffurfiol yr Undeb ar hyn o bryd; codeiddio hawliau dynol ledled yr UE; a llilinio gwneud penderfyniadau mewn corff sydd wedi tyfu i gynnwys 27 aelod.

Llofnodwyd y cytundeb cyfansoddiadol yn Rhufain gan gynrychiolwyr yr aelod-wladwriaethau ar 29 Hydref 2004. Roedd yn y broses o gael ei gadarnhau gan yr aelod-wladwriaethau pan wrthodwyd gan bleidleiswyr mewn refferenda yn Ffrainc (29 Mai 2005) a'r Iseldiroedd (1 Mehefin 2005). Pe byddai'r cytundeb wedi cael ei gadarnhau, byddai wedi dod i rym ar 1 Tachwedd 2006. Cadarnhaodd 18 aelod-wladwriaeth y testun, ac mae saith wedi gohirio'r broses cadarnhau.

Yn sgîl aflwyddiant y cytundeb cyfansoddiadol, penderfynodd cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym Mehefin 2007 ddechrau trafodaethau ar Gytundeb Diwygio fel amnewidiad.

Cysylltiadau allanol