Pibau Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
ceisio tacluso / cuddio'r testun Saesneg a adawyd / rhyngwici + cat
B Wedi symud Pib i Pibau Cymreig: sonnir am sawl math o bibau
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:25, 23 Awst 2007

Offerynnau cerdd yw'r pibau Cymreig. Ceir sawl math, e.e. pibgorn, pibgod, pibgwd, pibau cyrn, pibau cwd, bacbib, pibau gwynt.

Ceir tystiolaeth am bibau gwynt yng Nghymru o'r 10fed ganrif ymlaen, ond bu i'r traddodiad farw erbyn diwedd y 19eg ganrif oherywdd newid mewn ffasiwn a chwaeth cerddorol a dylanwad y mudiad Methodistaidd a filwriodd, ar y cychwyn, yn erbyn cerddoriaeth 'werin' am resymau crefyddol. Erbyn hyn, dim ond un enghraifft o bibau gwynt Cymreig a geir, a hynny yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Serch hynny, cafwyd adfywiad mewn diddordeb mewn canu'r pibau ers yr 1980au.