Awgrymeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 14 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1417194 (translate me) |
→Cyfeiriadau: categoriau |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
{{Cyfeiriadau}} |
{{Cyfeiriadau}} |
||
[[Categori:Addysg |
[[Categori:Addysg]] |
||
[[Categori:Iaith]] |
|||
[[Categori:Seicoleg]] |
Fersiwn yn ôl 19:24, 23 Hydref 2013
Dull addysgu iaith a ddatblygwyd gan y seicotherapydd Bwlgaraidd Georgi Lozanov ydy awgrymeg (Saesneg: suggestopedia). Fe'i defnyddir mewn llawer o wahanol feysydd, ond fe'i defnyddir yn bennaf wrth addysgu iaith dramor. Yn ôl Lozanov, gall myfyrwyr ddysgu iaith yn llawer cyflymach wrth ddefnyddio awgrymeg mewn cymhariaeth â dulliau addysgu traddodiadol.
Enw arall ar awgrymeg ydy "ffug-wyddoniaeth" yn ôl rhai addysgwyr iaith.[1] Mae'n dibynnu'n fawr iawn ar y ffydd a ddatblygir gan y myfyriwr o gredu bod y dull jyst yn gweithio, heb gwestiynu.
Rhoddwyd awgrymiad cadarnhaol ar yr addysgu wrth i'r dull ddatblygu yn y 1970au. Serch hynny, mae'r dull bellach yn canolbwyntio ar "dysgu dadawygrymol" (desuggestive learning), ac fe'i elwir yn "dadawgrymeg" yn aml yn sgìl y canolbwyntio yma.[2] Yn y Saesneg gwreiddiol, cyfansoddair cywasgedig ydy dadawgrymeg, felly yn cywasgu "suggestion" (awgrymu) a "pedagogy" (pedagogeg).
Defnyddir y dull hwn yn y rhaglen Gymraeg i ddysgwyr cariad@iaith:love4language. Mae'n debygol mai bathiad gan Ioan Talfryn yw'r enw Cymraeg sydd ar y dull addysgu iaith hwn a ddefnyddir yn y rhaglen, sef "dadawgrymeg".[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Richards, J.C. a Rodgers, T.S. (2001). Approaches and Methods in Language Teaching (ail agraff.). Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt
- ↑ Lozanov, Georgi. Suggestology and Suggestopedy. http://lozanov.hit.bg/ 4/30/2006
- ↑ Dadawgrymeg ar wefan Popeth Cymraeg