Aristoffanes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 66 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q43353 (translate me) |
B robot yn ychwanegu: fy:Aristofanes |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[Categori:Marwolaethau 388 CC]] |
[[Categori:Marwolaethau 388 CC]] |
||
[[Categori:Atheniaid]] |
[[Categori:Atheniaid]] |
||
[[fy:Aristofanes]] |
Fersiwn yn ôl 02:28, 8 Awst 2013
Dramodydd comig Groegaidd oedd Aristoffanes, fab Philippus (Groeg: Ἀριστοφάνης, ca. 456 CC – ca. 386 CC).
Nid oes sicrwydd ymhle na phryd y cafodd ei eni, ond roedd tua 30 oed yn y 420au pan gafodd lwyddiant mawr yn Theatr Dionysus yn Athen gyda'i ddrama Y Gwleddwyr. Cyfansoddodd 40 a ddramâu; mae unarddeg ohonynt wedi goroesi. Roedd llawer ohonynt yn ddramâu gwleidyddol, yn dychanu gwleidyddion Athen. Yn ddiweddarach, roedd ei feibion Araros, Philippus a Nicostratus hefyd yn lenorion.
Dramâu wedi goroesi'n gyflawn
- Yr Acharniaid (425 CC)
- Y Marchogion (424 CC)
- Y Cymylau (yn wreiddiol 423 CC, fersiwn ddiwygiedig anorffen o 419 CC – 416 CC wedi goroesi)
- Y Gwenyn (422 CC)
- Heddwch (fersiwn gyntaf, 421 CC)
- Yr Adar (414 CC)
- Lysistrata (411 CC)
- Thesmophoriazusae (Y Gwragedd yn dathlu'r Thesmophoria, fersiwn gyntaf, c. 411 CC)
- Y Llyffantod (405 CC)
- Ecclesiazusae (c. 392 CC)
- Plutus (Cyfoeth, ail fersiwn, 388 CC)
Llyfryddiaeth
- Edwards, Huw Lloyd, Y llyffantod: drama mewn pedair golygfa (Dinbych: Gwasg Gee, 1973)
ISBN 0-7074-0063-5 (Addasiad Cymraeg)